Bessie Davies
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Tafarnwraig o Sir Benfro yn dathlu carreg filltir

13 Ionawr 2017 Diweddarwyd 07:04 GMT

Wrth i bobl gogledd Sir Benfro ddathlu'r Hen Galan, fe fydd 13 Ionawr hefyd yn garreg filltir arbennig i Bessie Davies o dafarn y Dyffryn Arms, Cwm Gwaun.

Mae hi wedi bod yn cadw tafarn y Dyffryn Arms yng Ngwm Gwaun ers 45 o flynyddoedd, ac yn parhau i weini cwrw o'r gasgen yn y modd traddodiadol.