Llofruddiaeth Hen Golwyn: Dyn o flaen llys

David James Kingsbury Image copyright Heddlu gogledd cymru
Image caption Cafodd corff David James Kingsbury ei ddarganfod ar 5 Ionawr

Mae dyn 30 oed wedi bod o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn Hen Golwyn ar 5 Ionawr.

Mae Dean Joseph Cody wedi ei gyhuddo o ladd David James Kingsbury, oedd yn 35 oed.

Fe barodd y gwrandawiad lai na dau funud, wrth iddo gadarnhau nad oedd ganddo gyfeiriad parhaol, ond fe roddodd ei enw a'i ddyddiad geni.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug bore gwener.

Fe wnaeth dau ddyn arall, Colin David Lyness, 30 o Fae Colwyn a Thomas Charles Revatto, 50 o Hen Golwyn, hefyd ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa.