Merched y gân

Mae merched yn destun rhai o ganeuon gorau'r byd, ac wrth gwrs, mae yna ddigon o ganeuon Cymraeg sy'n sôn am ferched. Ond wyddwn ni pwy yw'r ferch tu ôl i'r gân?


Brengain - Sobin a'r Smaeliaid

Sgwennodd Bryn Fôn y gân yn dilyn cyfarfyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989:

"Mae'r gân yn eithaf dogfennol - fel dwi'n sôn, o'n i'n eistedd yn y gorlan goffi yn gynnar fore Sadwrn yn Steddfod Llanrwst, ar ôl noson go fawr nos Wener - a daeth y ferch 'ma o'r enw Brengain draw i sgwrsio. 'Do'n i erioed wedi clywed yr enw o'r blaen, a meddwl ei fod o'n un arbennig.

"Ar ôl ymchwilio, nes i ddallt fod cymeriad o'r enw Brengain yn chwedl Trystan ac Esyllt, felly mae'r gân yn plethu realiti a chwedl. Roedd Brengain wedi dod â phaned draw, oedd yn adleisio rôl Brengain y llawforwyn yn y chwedl, oedd yn gorfod cario bwyd a diod i'r byddigion ond ei bod hi'n haeddu gwell."

A phwy oedd y Brengain wnaeth Bryn ei chyfarfod, sydd wedi ei hanfarwoli ar gân? Chwaer neb llai na DJ Radio Cymru a Radio 1, Huw Stephens, a merch yr academydd Meic Stephens.


Beti Wyn - Mynediad am Ddim

Robin Evans ysgrifennodd eiriau'r gân i Mynediad am Ddim.

Meddai: "Roedd 'na griw ohonon ni yn byw yn Neuadd Pantycelyn (1973 - 74) ar yr un coridor. Roeddan ni'n chwilio am ganeuon ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd '74. Roedd gan Mei Jones ac Iwan Roberts alaw ond dim geiriau, felly fe sgwennais i benillion (gydag ambell i gyfeiriad at lefydd yn Eifionydd - fel Pont y Merched, sydd gerllaw Ffynnon Cybi) ond doedd 'na ddim cytgan.

"Un o'r genod oedd yn ein 'criw' ni (os mynni di) oedd Beti Wyn, felly dyma Emyr Wyn yn dechrau canu 'Beti Wyn' drosodd a throsodd fel cytgan. Ac mae o hyd y dydd heddiw yn mynnu hawlio geiriau'r cytgan!"


Angela - Y Trwynau Coch

Cân am y newyddiadurwraig Angela Rippon yw Angela gan Y Trwynau Coch - ac fe gyrhaeddodd y stori y Daily Express!

Roedd cyfansoddwr y gân, Rhodri Williams, wedi cael ei swyno ganddi ar y newyddion 9 o'r gloch. Mae'n debyg ei fod yn hoff iawn o newyddiadurwyr oherwydd ei fod yn canlyn Bethan Jones Parry ar y pryd, oedd yn darllen y newyddion yn Gymraeg i'r BBC. Mae ei llais i'w glywed ar ddechrau'r gân.

Yn yr erthygl yn y Daily Express, mae Angela ei hun yn nodi ei bod yn falch iawn fod rhywun wedi ysgrifennu cân iddi, ond ei bod yn gobeithio na fyddai'n rhaid iddi ei chanu, gan fod ganddi lais ofnadwy.

Image caption Angela Rippon, y newyddiadurwraig oedd yn 'troi mlaen y dynion', a Rhys Harris, prif leisydd Y Trwynau Coch

Myfanwy

Cafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi gan Joseph Parry tua 1875 i eiriau oedd wedi eu cyfansoddi gan Richard Davies. Mae'n debyg fod Joseph Parry wedi ysgriennu'r gân i'w gariad Myfanwy Llywellyn, ond mae'n siŵr fod y geiriau wedi eu hysgrifennu'n wreiddiol am stori gariad rhwng Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân, Llangollen a'r bardd Hywel ab Einion.

Y stori honno hefyd oedd testun y gerdd Myfanwy Fychan, gan y bardd Ceiriog. Mae hon yn gân boblogaidd ar draws y byd erbyn hyn, ac yn cael ei chanu yn aml gan gorau meibion Cymreig.

Image copyright YouTube
Image caption Ymunodd Nigel Owens â Chôr Meibion Dowlais ychydig o flynyddoedd yn ôl i ganu Myfanwy ar gyfer y rhaglen Heno

Lleucu Llwyd - Y Tebot Piws

Efallai eich bod chi'n gyfarwydd â'r gân Lleucu Llwyd gan Dewi Pws, ond wyddech chi ein bod yn dod ar draws yr enw gyntaf mewn cerdd goffa gan y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen o'r 14eg ganrif - Marwnad Lleucu Llwyd. Ond sut daeth Dewi i sgrifennu am y ferch yma?

Mae Dewi Pws yn ffan o'r bardd Wordsworth, yn enwedig ei gerdd am y ferch fach Lucy Gray, fu farw mewn storm. Pan ddaeth ar draws y gerdd Marwnad Lleucu Llwyd yn The Oxford Book of Welsh Verse, sylwodd ar y tebygrwydd yn enwau'r ddwy ferch, meddai, a sgwenodd y gân adnabyddus mewn rhyw chwarter awr ym mharlwr tŷ ei fam.

Image caption Y Tebot Piws, gyda Dewi Pws, cyfansoddwr y gân, ar y dde

Ond mae'r stori'n parhau, meddai: "Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan o'n i'n ymweld â Pennal, ger Machynlleth, soniodd rhywun wrtha i fod bedd Lleucu Llwyd yn y pentref - do'n i ddim yn sylweddoli ei bod hi'n bodoli go iawn - am gyd-ddigwyddiad! Ar ôl ymweld â'i bedd, aethon ni i'r ffermdy ble bu hi'n gweini.

"Clywais ei stori drasig; ei bod mewn cariad â dyn lleol ond nad oedd yn cael ei briodi gan ei thad, ac yn y diwedd, lladdodd ei hun. Mae'n debyg fod ei hysbryd dal i'w glywed yn crwydro'r ffermdy - yn chwerthin a chrio am yn ail."


Martha Llwyd - Fflur Dafydd

Martha Llwyd oedd hen hen hen hen hen famgu Fflur Dafydd! Cafodd ei geni yn 1766 - roedd hi'n emynyddes ac yn cael ei hadnabod fel 'Ann Griffiths Sir Gâr'. Doedd hi'n methu darllen nac ysgrifennu ac eto fe gyfansoddodd emynau lu a dod yn gyfaill i William Williams Pantycelyn. Mae'n amlwg fod yr awen gerddorol yn nwfn yng ngwaed Fflur, a hynny ers canrifoedd.

Meddai: "Ro'n i am gyfansoddi cân a oedd yn ein cysylltu ni'n dwy rhywsut - ac i ddweud fy mod yn ystyried fy hun 'fel brigyn ar dy goeden di' fel mae'r gân yn dweud!"


Ond mae ambell i gân sydd braidd yn gamarweiniol...

Gloria Tyrd Adre - Eryr Wen

Llion Jones oedd prif leisydd Eryr Wen, a fo oedd awdur y gân a enillodd Cân i Gymru 1987 gyda'r gân Gloria Tyrd Adre. Beth oedd yr hanes?

"Taswn i'n cael punt am bob tro y mae rhywun wedi holi 'Pwy ydy Gloria?' neu 'Ydy Gloria wedi dod adre eto?', mi fasa gen i £3 erbyn hyn!

"Ond y gwir amdani, ydy mai trosiad yn hytrach na pherson cig a gwaed ydy Gloria yn y gân. I fod yn onest, pan sgwennais i'r gân, doeddwn i ddim hyd yn oed wedi dod ar draws yr un Gloria, heblaw am yr un ar glawr Cynhaeaf Cymysg - llyfr o gerddi oedd yn destun gosod lefel O.

Image caption Eryr Wen, gyda Llion Jones ar y top

"Er ei bod hi wedi'i sgwennu fel rhyw fath o gân serch, cân am bobl ifanc yn gadael eu cynefin ydy hi yn y bôn, gyda tharddiad Lladin Gloria, sef gogoniant, yn ymgais at gyfleu fel y mae ardaloedd yn colli eu hanadl einioes wrth i'w pobl ifanc gael eu denu gan fan gwyn fan draw.

"Gan fod Eryr Wen yn cael ei weld fel 'band joio' oedd yn arbenigo ar ganeuon nonsens, mae'n beryg fod yr ergyd wedi cael ei cholli!"