Rhybudd arweinydd am fygythiad i 'genedl gerddorol'

Owain Arwel Hughes
Image caption Dywedodd Owain Arwel Hughes wrth ACau mai nad mater o chwarae cerdd er mwyn mwynhau'n unig neu er mwyn gyrfa oedd yn bwysig

Mae arweinydd blaenllaw wedi dweud wrth aelodau'r Cynulliad na fydd Cymru'n parhau'n genedl gerddorol os nad yw'r argyfwng ariannu gwersi cerdd mewn ysgolion yn cael ei ddatrys.

Dywedodd Owain Arwel Hughes fod cerddoriaeth yn hanfodol i ddysgu hunan-reolaeth a chydweithio ar gyfer plant, hyd yn oed os nad oedden nhw'n bwriadu dilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth.

Ychwanegodd fod rhai pobl yn honni fod dysgu cerddoriaeth wedi eu harbed rhag bywyd dan glo.

Fe alwodd Mr Hughes am sefydlu canolfan cenedlaethol gydag arian cyhoeddus i hybu addysg gerddorol i bawb.

Cafodd sylfaenydd y Proms Cymreig wahoddiad i roi tystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad i addysg gerddorol ar ôl disgrifio ei bryderon wrth BBC Cymru ym mis Rhagfyr am effaith toriadau gan gynghorau mewn cyfnod o lymder ariannol.

Dywedodd Mr Hughes wrth ACau mai nad mater o chwarae cerdd er mwyn mwynhau'n unig neu er mwyn gyrfa oedd yn bwysig, ond dywedodd ei fod yn hanfodol i ddatblygiad plant ac ni ddylai fod yn ddibynol ar deuluoedd yn gallu fforddio talu am wersi ac offerynnau.

"Fe ddylai pawb gael yr un cyfle, heb amheuaeth o gwbl," meddai.

"Rhaid dod o hyd i arian achos mae'n hanfodol i addysg pobl.

"Mae'r hyn sy'n dod allan ohono yn anhygoel - rwyf wedi clywed gan rai y bydde nhw wedi mynd i garchar petai nhw heb ddysgu offeryn neu fynd i chwarae mewn cerddorfa neu ddilyn gyrfa."

Disgrifiodd Mr Hughes ei bryder am fod niferoedd y bobl ifanc oedd yn mynd am glyweliadau i ymuno gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi disgyn i'w lefel isaf erioed.

"Dim ond canran arbennig sy'n mynd i mewn i'r proffesiwn, achos mae'n broffesiwn caled," meddai.

"Ond maen nhw'n dod yn athrawon ... yn feddygon, yn gyfreithwyr ac maen nhw'n dda am wneud hynny achos eu bod wedi cael y ddisgyblaeth o ddysgu offeryn yn y lle cyntaf a bod yn rhan o gerddorfa neu gôr neu beth bynnag."

Dywedodd Mr Hughes fod cerddoriaeth yn well na chwaraeon er mwyn dysgu hunan-ddisgyblaeth i blant, ond roedd angen rhoi llawer mwy o flaenoriaeth iddo o fewn addysg ac ariannu cyhoeddus.

"Pa bynnag amser mae na broblem ariannu, y bobl gyntaf [i ddioddef] yw'r celfyddydau a cherddoriaeth yn enwedig - rydym yn cael ein bwrw i lawr drwy'r amser," meddai.

Ychwanegodd fod addysg gerddorol yn Lloegr yn cael £75m o arian yn flynyddol drwy rwydwaith o ganolfannau, tra bod dim ond un cynllun £20m Dysgu Creadigol Drwy'r Celfyddydau yng Nghymru.

Dywedodd Mr Hughes y byddai yntau a'i gyd gerddorion yn fodlon cynnig cymorth a chyngor i sefydlu canolbwynt cenedlaethol, ac fe rybuddiodd fod enw da celfyddydol Cymru dan fygythiad.

"Y ffordd mae'r sefyllfa yn gwaethygu, ni fyddwn yn genedl gerddorol, achos fel yr wyf fi wedi dweud am y gerddorfa ieuenctid, dydi'r bobl ddim yna," meddai.

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am ymateb gan Lywodraeth Cymru.