Dyn a geisiodd dorri ei wddf ei hun 'nôl yn y llys

lukasz pawlowski Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Lukasz Pawlowski yn aros i gael ei ddedfrydu pan geisiodd dorri ei wddf ei hun

Mae dyn a geisiodd dorri ei wddf ei hun mewn llys ynadon wedi dychwelyd i'r un llys ddeuddydd yn ddiweddarach.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ddydd Mercher i drin Lukasz Robert Pawlowski, 33 o Ddoc Penfro, wedi iddo geisio anafu ei hun yn Llys Ynadon Hwlffordd.

Cafodd Mr Pawlowski ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol, ond daeth cadarnhad ddydd Iau ei fod yn gwella.

Roedd yn ymddangos yn y llys i gael ei ddedfrydu ar ôl pledio'n euog i ymosodiad rhyw wedi iddo afael a chusanu dynes mewn siop.

Wrth ymddangos eto ddydd Gwener, cafodd Mr Pawlowski ei gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant yn Hwlffordd.

Ni roddodd ble, ac mae wedi'i gadw yn y ddalfa nes gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ar 10 Chwefror, ble bydd y llys hefyd yn ei ddedfrydu am yr ymosodiad rhyw.