Pibell ddŵr wedi torri gan achosi difrod ym Mhowys

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae lluniau Julie Barrie Brownfield yn dangos yr olygfa yn y pentref

Mae pibell ddŵr wedi torri ym mhentre' Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, gan effeithio hyd at 40 o dai yn yr ardal.

Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru bod criwiau Llanfyllin a Llanfair Caereinion wedi bod yn delio gyda llifogydd yn yr ardal.

Yn ôl perchennog tafarn y Plough yn y pentref roedd stryd o gwmpas sgwâr y farchnad "fel afon".

Bu Cyngor Powys hefyd yn darparu bagiau tywod i drigolion.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod y bibell wnaeth dorri wedi ei darganfod gan gwmni Severn Trent.

Image copyright Jonathan Greatorex