Dreigiau 34-10 Enisei-STM

Dreigiau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rynard Landman o'r Dreigiau yn taclo Anton Rudoi

Llwyddodd y Dreigiau i sicrhau pwynt bonws gwerthfawr yn y fuddugoliaeth yn erbyn Enisei-STM o Rwsia yng nghwpan her Ewrop.

Y sgor terfynol oedd 34-10.

Mae'r Dreigiau wedi cadw eu gobeithion o gyrraedd y rowndiau nesaf yn y gystadleuaeth yn fyw gyda'r fuddugoliaeth swmpus.

Sgoriodd Harri Keddie ddau gais gyda T Rhys Thomas a Rhys Buckley yn croesi am y gweddill.

Bydd y Dreigiau yn teithio i Brive ar gyfer y gêm olaf yn y grŵp ar 21 Ionawr.