Yr un hen stori i'r Elyrch

Image copyright Getty Images

Abertawe 0-4 Arsenal

Er gwaetha'r don o optimistiaeth ar y Liberty yn sgil penodi rheolwr ac is-reolwr newydd, yr un hen stori oedd hi wrth i'r Elyrch ildio fflyd o goliau i un o dimau cryfaf yr Uwch-Gynghrair, Arsenal.

4-0 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm Liberty.

Yr athro ymarfer corff yn erbyn yr athro prifysgol - felly y soniwyd am y gêm gan aelodau'r wasg cyn yr ornest.

Cyn athro ymarfer corff ydi rheolwr newydd yr Elyrch, Paul Clement a 'Professor' ydi llys enw'r peniog Arsene Wenger, rheolwr y Gunners.

Hon oedd gêm gyntaf Clement wrth y llyw yn y gynghrair ac roedd angen tipyn gwell perfformiad na'r unig un arall mae o wedi reoli yn erbyn Hull yng Nghwpan yr FA pan gafodd Abertawe eu trechu.

Gôl rwydd

Yr Elyrch oedd yn pwyso fwyaf yn yr hanner cyntaf ac roedd Arsenal yn edrych yn ddigon di-gic.

Efo bron hanner awr wedi mynd llwyddodd Jack Cork i gipio'r bêl oddi ar Alexis Sanchez cyn bwydo'r bêl i Gylfi Sigurdsson a ergydiodd am y gôl.

Ond roedd hi wedi arafu ar ôl taro amddiffynnwr ar y ffordd, ac roedd hi'n arbediad rhwydd i Petr Cech.

Er hynny, ac yn groes i lif y chwarae, Arsenal sgoriodd gyntaf drwy eu blaenwr Olivier Giroud, ac roedd hi'n gôl rhy rwydd a gychwynnwyd gan y Cymro Aaron Ramsey.

Gyda dim ond ychydig funudau tan hanner amser roedd yna apêl uchel am gic gosb pan aeth Ki Sung-Yeung i lawr yn y cwrt cosbi.

Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraewr Arsenal, Alexis Sanchez yn dathlu ei gôl

Ond cerdyn melyn gafodd Ki gan y dyfarnwr oedd o'r farn mai deifio wnaeth o.

Yn sicr doedd yr Elyrch ddim yn haeddu bod ar ei hôl hi ac roedd eu cefnogwyr yn uchel eu llais yn cefnogi eu tîm.

Roedd Arsenal ar dân ar ddechrau'r ail hanner efo Ramsey yn saethu am gôl a Lukasz Fabianski rhwng y pyst yn arbed yn dda a ddwywaith wedyn oddi ar Sanchez ac Alex Iwobi.

Ond mater o amser oedd hi ac fe ddaeth yr ail gôl ar ôl i Iwobi eto ergydio ac i Cork daro'r bêl i'w gôl ei hun.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth ar ôl i Abertawe sgorio gôl arall drwy eu rhwyd eu hunain - croesiad gan Iwobi wnaeth daro Kyle Naughton cyn mynd dros y llinell gôl.

Fe ddaeth pedwaredd yn fuan gyda Sanchez yn sgorio.

Tasg fawr

Mae amddiffyn yr Elyrch wedi bod fel gogor drwy'r tymor.

Yn eironig, er iddyn nhw ildio pedair arall heddiw, roedd yna fwy o gadernid ac ysbryd i'w weld drwy'r tîm. Roedden nhw'n anlwcus yn arbennig i sgorio dwy drwy eu rhwyd eu hunain.

Roedd Clement a Makelele yn ymwybodol, cyn y gêm heddiw, fod ganddyn nhw waith aruthrol i'w wneud.

Cadarnhau pa mor aruthrol ydi'r dasg wnaeth canlyniad heddiw.