Pwynt i Gasnewydd yn erbyn Colchester

Casnewydd 1-1 Colchester United

Mae pethau yn edrych fymryn yn well i Gasnewydd ar ôl iddyn nhw lwyddo i gipio pwynt gwerthfawr yn erbyn Colchester United mewn gêm gyfartal.

Cafodd y tîm o Gymru y dechrau gorau gyda'r gôl yn dod gan Josh Sheehan.

Ond tarodd Colchester yn ôl gyda chic o'r smotyn.

Er i chwaraewr Casnewydd, Craig Reid gael dau gyfle i fynd ar y blaen methiant fu'r ymgeision. A ddaeth yna ddim mwy o goliau.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn parhau ar waelod y gynghrair.