Y freuddwyd yn parhau i'r Gleision

Image copyright Huw Evans picture agency

Pau 21-22 Gleision

Mae gobeithion y Gleision o gyrraedd y chwarteri yn dal yn fyw wedi buddugoliaeth agos oddi cartref yn erbyn Pau.

Er y canlyniad doedd eu perfformiad ddim yn un o safon gyda'r ddau dîm yn gwneud camgymeriadau ac yn methu cadw'r bêl.

Roedd y Ffrancwyr ar y blaen ar yr hanner wedi dau gais.

Yn yr ail hanner roedd yna chwarae blêr ond daeth y Gleision yn ôl gyda chic gosb a chais gan Willis Halaholo, yr unig gais gan y Gleision yn ystod y gêm.

Er i Pau fynd ar y blaen eto fe ddangosodd y Gleision gymeriad ac roedd troed Steven Shingler yn allweddol wrth iddo gicio'n llwyddiannus dros y pyst ym munudau ola'r gêm.

Un fuddugoliaeth arall sydd angen ar y Gleision er mwyn cyrraedd y chwarteri ym mhencampwriaeth y Cwpan Her.

Bryste fydd y gwrthwynebwyr nesaf.