Wrecsam 1-0 North Ferriby United

Image copyright Getty Images
Image caption Izale McLeod oedd sgoriwr unig gôl y gêm

Wrecsam 1- 0 North Ferriby United

Mae Wrecsam wedi cael buddugoliaeth, mawr ei hangen, gartref yn erbyn North Ferriby Unitied o un gôl i ddim.

Daeth y gôl gan Izale McLeod wedi 28 munud gan godi Wrecsam i'r 14eg safle yn y gynghrair.

Collodd y chwaraewr newydd Ntumba Massanka gyfle yn yr ail hanner fyddai wedi tawelu'r nerfau.

Ond fe fyddan nhw yn falch o gael y tri phwynt mewn tymor digon siomedig hyd yma.