Menyw yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Llanelli

Heddlu

Mae menyw yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad gyda char fore dydd Sul yn ardal Llanelli.

Roedd y fenyw 51 oed yn cerdded ar hyd Sandy Road pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 03:00.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw lygad dystion gysylltu trwy ffonio 101.