Torcalon i'r Scarlets ym munudau ola'r gêm yn erbyn Saracens

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dathlu cais Scott Williams ym Mharc y Scarlets

Scarlets 22-22 Saracens

Torcalon oedd hi i'r Scarlets mewn gêm llawn cyffro wrth i'r Saracens daro yn ôl yn y munud olaf a chwalu eu gobeithion yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Roedd hon yn frwydr epig, â'r Scarlets ar eu gorau.

Er i'r Saracens gael cais yn yr hanner cyntaf, y tîm cartref oedd ar y blaen erbyn diwedd y 40 munud a hynny o 9-5 diolch i droed y maswr Dan Jones.

Daeth asgellwr Lloegr, Chris Ashton a'r sgôr yn gyfartal yn yr ail hanner cyn i Scott Williams sgorio cais wych ar ôl bylchu amddiffyn yr ymwelwyr a rhoi ei dîm yn ôl ar y blaen.

Ond er eu hymdrechion doedd buddugoliaeth hanesyddol ddim i fod wrth i Ashton fynd am ei ail, gyda'r symudiad olaf un.

Golyga hyn fod gobeithion y Scarlets o gyrraedd y chwarteri yn deilchion.

Gêm anhygoel a sgôr terfynol o 22-22.