Buddugoliaeth gyfforddus i’r Gweilch

Image copyright Huw Evans picture agency

Gweilch 47-7 Lyon

Fe gipiodd y Gweilch bwynt bonws gyda pherfformiad meistrolgar gartref yn erbyn Lyon.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen ar ôl 20 munud ond daeth ceisiau gan Dan Baker a Keiron Fonotia gan roi'r Gweilch ar y blaen erbyn yr egwyl.

Yn yr ail hanner yr enillodd y Gweilch y gêm wrth iddyn nhw godi gêr ac roedd yna gywirdeb yn eu chwarae.

Daeth y ceisiau un ar ôl y llall gyda chais Dan Evans ymysg yr uchafbwyntiau.

Mae'r canlyniad yn golygu eu bod yn un o'r ffefrynnau ar gyfer Cwpan Her Ewrop ac mae ganddynt nawr fantais o chwarae adref yn eu gêm nesaf yn y chwarteri.

Y sgôr terfynol oedd 47-7.