Dyn yn gwadu ceisio llofruddio perchennog siop

Matthew Whelan a Leslie Baines Image copyright Andrew Price
Image caption Bydd yr achos yn erbyn Matthew Whelan (chwith) a Leslie Baines yn cael ei gynnal ym mis Mai

Mae dyn wedi gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio perchennog siop yn ystod lladrad yng Nglannau Dyfrdwy.

Fe wnaeth Matthew Liam Whelan, 29 oed o Mancot, gyfaddef cyhuddiad o anafu'n fwriadol yn ystod y digwyddiad ar 8 Rhagfyr.

Cyfaddefodd i gyhuddiad o ladrata o siop Imtiaz Ul Haq, 58 oed, hefyd.

Fe wnaeth ei gyd-ddiffynnydd, Leslie Peter Baines, 47 oed o Gei Connah, wadu cyhuddiad o ladrata.

Gosododd y Barnwr Rhys Rowlands ddyddiad eu hachos llys ar 22 Mai.

Fe ddioddefodd Mr Ul Haq anafiadau difrifol i'w wddf gan gyllell yn dilyn yr ymosodiad yn ei siop.

Cafodd Mr Whelan a Mr Baines eu cadw yn y ddalfa.