Llywodraeth yn gwario £84,000 ar achos llys Brexit

Supreme Court logo Image copyright Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn gwario mwy na £84,000 ar yr achos Brexit yn y Goruchaf Lys.

Fe wnaeth gweinidogion Cymru ymyrryd yn yr achos ynglŷn ag a ddylid tanio Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gydsyniad aelodau seneddol.

Fe ddywed y Ceidwadwyr Cymreig bod dros £79,000 wedi ei wario ar gyngor cyfreithiol ynghyd â chostau teithio a llety.

Mae AS Mynwy, David Davies, wedi disgrifio hyn yn wastraff arian, ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n ymddiheuro am warchod buddiannau Cymru.

Yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys bod rhaid i ASau bleidleisio cyn tanio Erthygl 50, fe wnaeth llywodraeth y DU apelio i'r Goruchaf Lys.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd rhan yn y gwrandawiad yna ym mis Rhagfyr, ac mae disgwyl penderfyniad y Goruchaf Lys rhywdro ym mis Ionawr.

Daw'r ffigyrau am wariant Llywodraeth Cymru o ganlyniad i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Dadl Llywodraeth Cymru yn y gwrandawiad oedd y byddai tanio Erthygl 50 yn golygu "newid sylweddol" i setliad datganoli yng Nghymru.

Cafodd y ddadl honno ei disgrifio gan lywodraeth y DU fel un "trofaus".

Image caption Dywedodd AS Mynwy, David Davies, bod yr achos wedi'i symbylu gan ego

Mae'r ffigyrau'n dangos gwariant o:

  • £79,074.43 ar gyngor cyfreithiol allanol;
  • £4,162.20 ar deithio, treuliau a llety i'r cwnsler cyffredinol Mick Antoniw a thri o gyfreithwyr Llywodraeth Cymru;
  • £800 ar y cais i ymyrryd yn yr achos;
  • £327.80 i logi ystafell gyfarfod yn y Goruchaf Lys.

Dywedodd AS Mynwy, David Davies: "Am wastraff o arian y trethdalwr, a'r cyfan i dalu am ymgais Mick Antoniw i atal Brexit.

"Yn y pen draw fe gafodd gwendid achos Llywodraeth Cymru ei ddatgelu am yr hyn ydoedd - ymarfer a symbylwyd gan gyfuniad o ego, ac amharodrwydd i dderbyn y broses ddemocrataidd.

"Efallai nad yw'r swm yn un mawr yng nghyd-destun cyllideb Llywodraeth Cymru, ond fe allai'r math yna o arian fod wedi cael ei wario ar bedair nyrs i'r GIG yng Nghymru, ac fe fyddai hynny wedi bod yn ddefnydd llawer gwell o arian y trethdalwr."

'Gweithredu o fewn y gyfraith'

Gwadodd Llywodraeth Cymru mai ymgais i atal Brexit oedd yr achos.

Dywedodd llefarydd: "Dydyn ni ddim yn ymddiheuro am ymyrryd mewn achos sydd ymhlith y mwyaf arwyddocaol o safbwynt cyfansoddiad yn hanes y DU.

"Fe wnaethon ni hynny er mwyn gwarchod buddiannau Cymru a'r sefydliadau sydd wedi'u datganoli.

"Fe wnaeth pobl y DU bleidleisio dros adael yr UE, ac rydym yn parchu'r penderfyniad yna.

"Ond er y bydd Brexit yn digwydd, ni all llywodraeth y DU ddechrau gwneud hynny drwy sathru ar gyfansoddiad Prydain.

"Rhaid iddyn nhw weithredu o fewn y gyfraith.

"Yn y Goruchaf Lys fe wnaethon ni ddadlau bod rhaid i'r broses o adael yr UE gael ei wneud o fewn y gyfraith, sydd yn cynnwys parchu a glynu at drefniadau cyfansoddiadol y DU a'r fframwaith cyfreithiol ar ddatganoli."