'Angen adlewyrchu amrywiaeth yn well', medd awdures

Dr Jasmine Donahaye Image copyright Keith Morris
Image caption Mae tuedd i weld Cymru drwy "ddarlun cul" medd Dr Jasmine Donahaye

Mae angen i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru fod yn fwy "cynhwysol" wrth adlewyrchu'r amrywiaeth diwylliannol o fewn Cymru, yn ôl awdures.

Dywedodd Dr Jasmine Donahaye wrth BBC Cymru Fyw bod tuedd o hyd i weld Cymru drwy "ddarlun cul", gan anwybyddu lleiafrifoedd ethnig sydd yn rhan o'r gymdeithas.

Daw ei sylwadau fis wedi i'r Cynulliad gael ei feirniadu am gyhoeddi ffurflen yn gofyn i bobl nodi eu cefndir ethnig, ble dim ond pobl wyn oedd yn medru nodi eu bod yn Gymry.

"Roeddwn i'n teimlo cywilydd drostyn nhw," meddai Dr Donahaye, sydd yn dod o dras Iddewig.

"Mae 'na ddyletswydd i bawb sylwi ar hynny a'i amlygu, achos mae'r Gymru fodern amlddiwylliannol yn berchen i bawb."

'Rhy hawdd'

Yn y Cyfrifiad diwethaf yn 2011 dywedodd 95.6% o Gymry eu bod yn dod o dras ethnig gwyn, ac fe nododd 57.6% o bobl Gristnogaeth fel eu crefydd.

Ond yn ôl Jasmine Donahaye mae tuedd i guddio tu ôl y ffaith bod gan Gymru ganran is o leiafrifoedd ethnig fel esgus i beidio â'u hadlewyrchu nhw yn y gymdeithas.

"Mae'n rhy hawdd dweud 'mae Cymru'n wahanol i rannau eraill o'r DU felly does dim rhaid i ni wneud unrhyw beth, nid ein problem ni yw hi', neu ddweud mai yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd y mae gennych chi amlddiwylliannedd a chymunedau amlethnig," meddai.

"Nid mater o ble mae'r boblogaeth wedi'i ddosbarthu yw hi, ond y teimlad o beth ydyn ni fel cenedl."

Image caption Fe ddywed Shazia Awan bod dyletswydd ar y Cynulliad i hyrwyddo cydraddoldeb

'Dyletswydd statudol'

Un o feirniaid pennaf ffurflen ethnigrwydd y Cynulliad oedd yr entrepreneurwraig Shazia Awan, a ysgrifennodd golofn feirniadol ar y pryd i'r New Statesman.

"Wrth hepgor yr opsiynau i adnabod ein hunain fel Cymreig ac Asiaidd, Cymreig a du, neu Gymreig â chefndir cymysg, fe wnaeth ffurflen y Cynulliad ddweud rhywbeth ehangach i ni am y ffordd mae sefydliadau yn gweld ein cymunedau amrywiol ni yng Nghymru," meddai Ms Awan, sydd hefyd yn gyflwynydd ar BBC Asian Network.

"Cafodd y Cynulliad Cenedlaethol ei sefydlu gyda dyletswydd statudol i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru. Yn ei 17 mlynedd o hanes mae hi'n methu'n ddirfawr ac yn siarad â'i hun.

"Mae sefydliad sydd ar y cyfan yn wyn wedi penderfynu pa grŵp ethnig sydd yn edrych yn ddigon Cymreig i dicio'u bocs."

'Cyfyngu gallu busnes'

Un esiampl a gyfeiriodd Jasmine Donahaye ato yn ddiweddar oedd ei hymgais i ddod o hyd i ddyddiadur dwyieithog.

Fe drydarodd ei rhwystredigaeth bod yr unig un yr oedd hi'n gallu dod o hyd iddo - un gan wasg Y Lolfa - ddim yn cynnwys unrhyw wyliau na digwyddiadau o grefyddau oni bai am Gristnogaeth.

"Dwi eisiau ei ddefnyddio, ond dwi eisiau cael mynediad i'r holl adnoddau sydd gan Gymru i'w gynnig, nid jyst y darlun cul yma o beth yw Cymru," meddai'r awdures.

"Mae'n rhaid i mi gŵglo gwyliau eraill sydd ddim yn y dyddiadur.

Image copyright Lolfa
Image caption Dyddiadur dwyieithog Y Lolfa oedd yr unig un y daeth Dr Donahaye ar ei draws

"Os yw rhywun o leiafrif ethnig ai peidio, dylai [defnyddwyr y dyddiadur] allu cael y wybodaeth yna fod mor hawdd â gallu cael gwybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae'n benderfyniad busnes gwael. Beth bynnag 'dych chi'n ceisio ei werthu, os 'dych chi'n marchnata eich hunain o fewn demograffeg gul 'dych chi'n cyfyngu gallu eich busnes."

Yn ôl Dr Donahaye, mae'r iaith Gymraeg hefyd yn "colli cyfle" i wneud ei hun yn berthnasol i garfan sylweddol o fewn y gymdeithas.

"Rydych chi'n methu cyfle i newid ffordd o feddwl pobl sydd yn meddwl fod yr iaith 'ddim i fi, mae e'n wyn, Cristnogol, yn aml yn wledig, ac mae'n ymwneud â diwylliant does gen i ddim mynediad iddi ac sydd ddim yn rhan o fy hunaniaeth'."

'Gwyliau Banc'

Mewn ymateb i'r sylwadau dywedodd Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa, nad oedd y dyddiaduron yn rai "Cristnogol" a bod croeso i unrhyw fusnes neu sefydliad yng Nghymru i gynnig eu manylion cyswllt ar gyfer y cyhoeddiad.

"Rydym yn cynnwys diwrnodau pwysig y dyddiadur Cristnogol fel y Pasg a'r Nadolig am eu bod yn wyliau banc. Rydym hefyd yn cynnwys digwyddiadau a gwyliau cenedlaethol Cymreig," esboniodd.

"Rydym wedi edrych i mewn i'r posibilrwydd o gynnwys dyddiadau pwysig prif grefyddau'r byd ond penderfynwyd y byddai yn anymarferol i'w cynnwys oherwydd diffyg lle.

"Byddwn, fodd bynnag, yn ail edrych ar gynnwys y rhestr sefydliadau a'r busnesau ar gyfer dyddiaduron 2018.

"Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau a gwyliau cenedlaethol Cymreig ychwanegol i'w cynnwys yn nyddiaduron 2018 boed yn seciwlar neu yn perthyn i unrhyw grefydd."