Digon o barch i fiwsig Cymraeg?

Yws Gwynedd Image copyright Yws Gwynedd
Image caption Ifan Sion Davies, Ywain Gwynedd, Rich Roberts a Emyr Prys Davies - band Yws Gwynedd

Heb ei seboni o'n ormodol, mae'n deg dweud mai Ywain Gwynedd ydy un o artistiaid mwyaf poblogaidd y Sin Roc Gymraeg.

Bydd Yws yn perfformio Sebona Fi - hoff gân gwrandawyr Radio Cymru yn siart #40Mawr 2016 - mewn cyngerdd arbennig ar Ddiwrnod Santes Dwynwen i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu'r orsaf.

"Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i gael cyfleon gwych gan Radio Cymru dros y blynyddoedd ac mae rôl yr orsaf yn hybu bandiau ac artistiaid ifanc yn holl bwysig," meddai Yws.

"Heb gerddoriaeth gyfoes a pherthnasol, does dim posib i'r iaith Gymraeg ffynnu."

Yn saer coed wrth grefft ac yn bêl-droediwr dawnus, mae'n abl iawn mewn sawl maes. Ond pan ddaw hi i gerddoriaeth, mae'n credu nad ydy cyfraniad y diwydiant i ddiwylliant Cymraeg yn cael ei lwyr werthfawrogi.

"Dwi ddim yn meddwl bod o'n cal cweit gymaint o barch ag y dylai o," meddai Ywain.

"Mae'r sin yn cael ei edrych ar fel peth chwerthinllyd gan rai pobl.

"Ella bod rhai pobl yn sbio lawr eu trwyna' arno fo dipyn bach. Ond dwi'n coelio'n gryf heb y sin miwsig Gymraeg, heb y petha' 'ma pobl ifanc yn dewis gwrando ar eu hunain, 'sgen ti ddim yr iaith yn datblygu'n naturiol ac yn cael ei gweld fel wbath 'cŵl'.

"Mae'n bwysicach na petha' sy'n cael eu stwffio lawr eu gyddfa' nhw yn yr ysgol."

Image copyright Yws Gwynedd
Image caption Yws Gwynedd yn perfformio i gannoedd o bobl ifanc

Wrth siarad am y band a ddaeth ag o i enwogrwydd dros ddegawd yn ôl, dywedodd Ywain fod aelodau Frizbee ar y pryd yn trin y band fel "busnes".

"Oeddan ni'n llawn amsar am dair blynadd a hannar allan o bump. Oedd o'n gyflog iawn a ddaru ni erioed gael nawdd yn uniongyrchol - 'aru bob dim gael ei 'neud ar ein cefna' ni'n hunain."

Roedd y band yn gwneud arian drwy werthu CDs a breindaliadau (royalties).

Ond yn 2008 - ar ddechrau cyfnod hir o anghydfod rhwng cerddorion Cymraeg a'r corff oedd yn dosbarthu taliadau i'r artistiaid - daeth Frizbee i ben.

Ac er bod pryderon wedi codi yn ddiweddar am ddyfodol y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, mae Ywain o'r farn bod mwy o fri yn perthyn i'r diwydiant hwnnw na sydd i fiwsig Cymraeg.

"Ella bod hi'n amsar rhoi'r sin miwsig Gymraeg ar fwy o bedestal," meddai Yws, sy'n rhyddhau ei albym nesaf ym mis Ebrill ac sy'n edrych ymlaen i fod yn dad am yr ail waith.

"Ella bod llyfra' wedi dod yn bell yn ddiweddar, ond y gwir ydy mae'r sin miwsig Gymraeg yn cynnig lot mwy na ma' pobl yn ei feddwl.

"Dwi'm yn coelio mewn sybsydeiddio'r celfyddyda' - dydy o ddim yn compiwtio efo fi."

Sin amhroffesiynol?

"Proffesiynoli'r sin sydd ei angan," meddai, "ac i fod yn deg mae hynny wedi digwydd fwy yn y pum mlynedd ddiwetha' nag oedd wedi digwydd yn y 30 mlynadd cyn hynny.

"Ond mae'n saethu ei hun yn ei droed weithia' hefyd.

"I lot o fandia' ifanc mae ganddyn nhw betha' maen nhw isio'i gyflawni, ond i rai erill jysd laff ydi o - fel dylia fo fod. Ond mae lot o'r rheiny yn cael gymaint o sylw â'r rhai sy' ddim yn ei gymryd o gymaint o ddifri' ac, yn y pen draw, ma' bandia' sy'n trio g'neud wbath ohoni yn cael eu tynnu i lawr gan y lleill a wedyn ella ei fod o'n edrych o'r tu allan fel bod y sin yn amhroffesiynol.

"Wedyn ti'n sdyc yn y paradocs 'ma o wbath sy'n eitha' safonol ond sydd ddim yn cael ei weld fel 'na o'r tu allan."


Dr Sarah Hill, arbenigwr ar gerddoriaeth Gymraeg

Mae'n anodd cymharu cerddoriaeth Gymraeg gyda barddoniaeth a llenyddiaeth, achos maen nhw'n draddodiadau gwahanol. Yn sicr, mae cerddoriaeth wedi bod yn llai amlwg ar adegau na llên a barddoniaeth, ac mae mwy o glod i'r bobl sy'n ennill y Gadair yn yr Eisteddfod na sydd i'r rhai sy'n ennill Tlws y Cerddor.

Ond ar ei lefel bach ei hunan, mae cerddoriaeth Gymraeg wedi'i hadnabod fel elfen bwysig yn yr ymgyrch iaith dros y blynyddoedd, felly mae'r clod wedi bod yno. Ond os y'n ni'n sôn am gerdd bop anwleidyddol, sydd yn bodoli er mwyn mwynhâd pur - falle y math o beth mae pobl ifanc yn gwrando arno y dyddiau yma - does dim dealltwriaeth am ei rôl yn y gymdeithas, dyw hi ddim yn cario Neges Fawr, ac felly dydy hi ddim yn cael cymaint o sylw o ddifri' oherwydd hynny.

Ond mae'r un peth yn wir am gerdd bop Saesneg i ryw raddau, felly dyw hynny ddim yn broblem i bop Cymru yn unig. Y ffaith bod pobl ifanc yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg sy'n bwysig, nid 'y neges' sydd yn rhan ohono.

Os oes 'na bobl ifanc sydd eisiau chwarae cerddoriaeth Gymraeg eu hunain, mynd i gigs Cymraeg, prynu CDs neu downloads neu beth bynnag achos mae'r gerddoriaeth Gymraeg yn werth gwrando arni, dyna sy'n bwysig, a dyna fydd yn cadw'r iaith yn fyw i'r bobl ifanc.

Mewn unrhyw sin bydd rhai pobl yn edrych lawr eu trwynau ar rai pethau, bydd rhai pobl yn cymharu rhai stwff gyda stwff arall; mae hynny'n hollol naturiol. Mae'r ffaith mod i'n clywed cerddoriaeth Gymraeg pob dydd ar BBC 6 Music - hynny yw, ar raglenni DJs Saesneg, ar orsaf radio Saesneg - yn arwydd bod y sin yn iach a bod pobl yn dal i greu cerddoriaeth ddiddorol a chyfoes, ac felly 'pwysig'. Ac mae'n croesi lot mwy o ffiniau heb ei gyfieithu na gall llenyddiaeth neu farddoniaeth Cymraeg…


Ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, 25 Ionawr, bydd BBC Radio Cymru yn gwahodd gwrandawyr i Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghaerdydd - cartref Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Bydd Diwrnod Diolch o Galon yn rhan o flwyddyn o ddathliadau Radio Cymru yn 40 oed - ac yn gyfle i ddiolch i'r gwrandawyr ac i'r rheiny sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr orsaf ers 1977.

Mae mynediad i'r cyngerdd am ddim a bydd hefyd yn cael ei ddarlledu'n fyw ar Radio Cymru rhwng 10am a 5pm.