Trysorau coll y Cymry

wyddgrug

Mi fydd un o drysorau hynafol Cymru yn ymddangos ar stamp newydd.

Bydd Mantell Aur Yr Wyddgrug yn un o'r creiriau, neu leoliadau, fydd i'w gweld ar gasgliad o stampiau sy'n nodi'r cyfnod cynhanesyddol yn Ynysoedd Prydain.

Er bod y Fantell ymhlith cyfoeth o drysorau hanesyddol Cymru, dyw hi na nifer o drysorau pwysig eraill ddim yn cael eu cadw yma. A ddylen nhw ddod nôl adref? Dyma i chi hanes y Fantell a nifer o greiriau eraill sydd wedi hen adael ffiniau Cymru:


Image caption Mantell Aur yr Wyddgrug fel y bydd hi i'w gweld ar y stamp newydd

Mantell Aur yr Wyddgrug

Mantell Aur yr Wyddgrug yw'r dystiolaeth orau yn Ewrop o waith celf yr Oes Efydd, meddai archaeolegwyr ac mae'n unigryw drwy'r byd.

Daeth gweithwyr oedd yn cloddio mewn chwarel gerrig ar Fryn-yr-Ellyllon yn nhref yr Wyddgrug o hyd i'r fantell mewn bedd yn 1833. Mae hi dros 3,500 oed.

Wedi ei gwneud o aur pur a'i haddurno gyda rhesi patrymog mae'r clogyn wedi bod ym meddiant yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llythyr Pennal

Talp arall o hanes Cymru mae haneswyr wedi galw am iddo ddod nôl ydy Llythyr Pennal - un o lythyrau Owain Glyndŵr sy'n cael ei gadw yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc.

Apêl sydd yn y llythyr gan Owain Glyndŵr at Frenin Ffrainc, Siarl VI yn gofyn am gymorth i ymladd Brenin Lloegr ac yn dweud y byddai'n ffyddlon i Bab Avignon.

Wedi ei sgwennu mewn Lladin, mae'n sôn am ei gynlluniau i greu Cymru gref ac annibynnol drwy sefydlu eglwys annibynnol, dwy brifysgol a sefydliadau eraill angenrheidiol i wireddu ei weledigaeth. Mae'n cynnwys llofnod a sêl swyddogol Glyndŵr.

Er bod chwe chopi o'r llythyr ar gael yng Nghymru bellach, gan gynnwys un yn Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, mae nifer o Gymry eisiau i Ffrainc ddychwelyd y copi gwreiddiol.

Llyfr Coch Hergest

Mae'r llyfr hynafol hwn yn cael ei gyfrif yn un o lawysgrifau canoloesol pwysicaf yr iaith Gymraeg.

Yn dyddio nôl i 1382, mae'n cynnwys straeon o'r Mabinogi a barddoniaeth y Gogynfeirdd.

Ar ôl bod ym meddiant rhai o deuluoedd bonedd Cymru am ganrifoedd cafodd y llawysgrif ei rhoi i Goleg yr Iesu yn Rhydychen ac yno, yn Llyfrgell Bodleian, mae'n cael ei chadw.

Mae 'na sôn bod yr awdur JRR Tolkien wedi astudio Llyfr Coch Hergest a'i fod wedi dylanwadu ar ei gampwaith 'The Lord of The Rings'.

Coron Brenin Enlli

Dros y ffin mewn cas gwydr yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl mae Coron Brenin Ynys Enlli yn cael ei chadw yn barhaol ers 1986, er ei bod hi ar fenthyg ar hyn o bryd i Storiel, Amgueddfa Bangor. Coron wedi ei gwneud o dun ac efydd ar gyfer 'Brenin Enlli' oedd hon.

Roedd hi'n draddodiad i'r 'brenin' neu'r 'frenhines' gael eu dewis o blith trigolion yr ynys gyda chefnogaeth ei pherchennog, Arglwydd Niwbwrch.

Ar ymweliad â thref Pwllheli unwaith, cafodd y Brenin Love Pritchard ei groesawu gan y Prif Weinidog David Lloyd George fel "brenin o dramor."

Love Pritchard, a fu farw yn 1927, oedd 'brenin' olaf yr Ynys.

Llyfr Teilo

Mae Llyfr Teilo (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Llyfr Sant Chad) yn cael ei gadw yng Nghadeirlan Caerlwytgoed (Lichfield) yng nghanolbarth Lloegr.

Cafodd ei sgwennu yn hanner gyntaf yr 8fed ganrif, ac mae'n cynnwys Efengylau Matthew a Marc a rhan o Efengyl Luc. Mae'r llawysgrif wedi'i haddurno'n gain yn yr arddull Geltaidd tebyg i Lyfr Lindisfarne.

Mae sawl cofnod Hen Gymraeg yn y llyfr sy'n trafod materion cyfreithiol yr oes.

Yn ôl i Gymru?

Er bod yna ymdrechion gwleidddyol a diwylliannol wedi bod yn y gorffennol i geisio dod â'r creiriau yma nôl yn barhaol i Gymru, mae yna broblemau ymarferol i'w hwynebu. Mae'r Dr John Davies, hanesydd a daearegydd o Landysul yn ymddiddori yn y trysorau yma:

"Mae ein trysorau ni yn hollbwysig i ni fel cenedl ac yn yn tynnu bobl at ei gilydd. Maen nhw'n helpu pobl i ddychmygu'r cyfnod, ac yn siapio sut mae pobl yn teimlo am eu hardal. Mae pethau fel hen llawysgrifau yn taflu golau ar y math o gymunedau a'r bobl yn y casgliadau." meddai.

"Mae'n grefft i gadw'r hen ddogfennau mewn cyflwr da, ac mae'n costio lot o arian. Mae'n cymryd arbenigedd i stopio tamprwydd a chemegolion rhag difrodi dogfennau.

"Weithiau dydy'r arbenigedd ddim yma yng Nghymru (tu allan i'r canolfanau mawr), felly mae rhaid gofyn sut mae delio gyda hynny petai'r trysorau yn dod nôl gatref.

"Mae'r we yn arf pwysig y dyddai hyn i geisio denu pobl i ymweld â'r trysorau hyn. Y peth pwysig yw bod yna ddigon yn cael ei wneud i'w diogelu i genhedlaethau a ddêl."

(Addasiad yw hon o erthygl gafodd ei chyhoeddi gan Cymru Fyw yn ystod Gwanwyn 2015)