Abertawe yn arwyddo Martin Olsson o Norwich City

martin olsson Image copyright Getty Images
Image caption Mae Olsson wedi ennill 40 cap dros Sweden, ac fe chwaraeodd yn Euro 2016

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo'r amddiffynnwr Martin Olsson o Norwich City.

Bydd Olsson, 28, yn debygol o gystadlu gyda Neil Taylor a Stephen Kingsley i chwarae yn safle'r cefnwr chwith.

Y gŵr o Sweden yw'r ail chwaraewr i gael ei arwyddo gan reolwr newydd yr Elyrch, Paul Clement yn dilyn yr asgellwr Luciano Narsingh.

Mae Olsson wedi arwyddo cytundeb am ddwy flynedd a hanner gydag opsiwn am flwyddyn ychwanegol, ond dyw'r clwb heb gadarnhau beth oedd y ffi a dalwyd.