Abertawe yn ailarwyddo Tom Carroll yng nghanol cae

tom carroll Image copyright Getty Images

Mae Abertawe wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Tom Carroll o Tottenham Hotspur yn barhaol.

Fe dreuliodd Carroll, 24, gyfnod ar fenthyg gyda'r Elyrch yn ystod tymor 2014/15, gan chwarae 18 o weithiau.

Mae wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner yn Stadiwm Liberty, ond dyw Abertawe heb ddatgelu faint maen nhw wedi'i dalu i Spurs amdano.

Carroll yw'r trydydd chwaraewr i gael ei arwyddo gan y rheolwr newydd Paul Clement, a hynny wedi i Luciano Narsingh a Martin Olsson hefyd ymuno â'r clwb.