Llofruddiaeth Casnewydd: Pedwar yn ymddangos yn y llys

Blodau Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Cafodd Mr Jedrzejewski ei ddarganfod yn anymwybodol yng Nghasnewydd ar 12 Ionawr

Mae pedwar person wedi ymddangos o flaen llys ynadon yng Nghasnewydd fore Mawrth wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn 41 oed yn y ddinas.

Mae Richard Wallis, 43 oed, Shaquile Crosdale, 18, a Callum Banton, 18, wedi eu cyhuddo o lofruddio Jan Jedrzejewski.

Mae llanc 17 oed hefyd wedi ymddangos gerbron y llys mewn gwrandawiad arall, wedi'i gyhuddo o'r un drosedd.

Cafodd Mr Jedrzejewski ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Keene yn y ddinas am tua 23:00 ar 12 Ionawr.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae'r pedwar wedi eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddynt ymddangos gerbron Llys y Goron Casnewydd fore Mercher.