Aelodau Cynulliad yn cymeradwyo Mesur Cymru

Carwyn Jones

Mae Aelodau Cynulliad wedi cefnogi Mesur Cymru mewn pleidlais yn y Senedd, gan olygu y gallai'r cam nesaf o ddatganoli ddod yn gyfraith.

Pleidleisiodd 38 o ACau o blaid cynlluniau Llywodraeth Prydain, ac 17 yn erbyn.

Yn y Senedd nos Fawrth bu ACau yn trafod Mesur Cymru, sy'n rhoi pwerau ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros ynni, trafnidiaeth, dŵr a threfniadau etholiadau i'r Cynulliad, ymysg pethau eraill.

Mae'r mesur yn "amherffaith" ond yn gam arall ar hyd "siwrne ddatganoli", medd y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Ond mae nifer o arbenigwyr a gwleidyddion yn poeni fod y newidiadau hefyd yn cyfyngu ar bwerau gweinidogion ym Mae Caerdydd.

Cytunodd Llywodraeth Prydain i beidio â bwrw ymlaen heb bleidlais gadarnhaol yn y Cynulliad.

Penderfynodd y grŵp Llafur gymeradwyo'r mesur, a gyda chefnogaeth y Ceidwadwyr, cafodd y mesur ei phasio.

'Siwrne datganoli'

Cyn y bleidlais, dywedodd Mr Jones: "Beth fydd gennym yw model amherffaith, ond wedi pwyso a mesur, fy nghred i yw taw'r llwybr orau i ddilyn, wrth i bobl Cymru ddelio â chwestiwn Brexit, yw derbyn yr hyn sy'n cael ei gynnig.

"Ry' ni'n ei weld felly fel cam arall ar siwrne datganoli."

Roedd hi'n amwys i beidio cael deddfwriaeth ar wahân i Gymru, meddai Mr Jones, gan awgrymu y gallai bobl gael eu harestio yng Nghymru yn y dyfodol am droseddau oedd ond yn bodoli yn Lloegr.

Ychwanegodd: "Mae'n ddryslyd i'r cyhoedd ac i'r cyfreithwyr."

Mae'r mesur hefyd yn cadarnhau y bydd pwerau i reoli canran o dreth incwm yn cael eu datganoli, a hefyd yn sicrhau fod y Cynulliad yn rhan barhaol o gyfansoddiad Prydain.

Image caption Dywedodd Leanne Wood ei bod am weld "llawer iawn mwy" o bwerau'n cael eu datganoli

Yn gynharach cyhoeddodd Plaid Cymru na fyddai'r blaid yn cefnogi'r mesur yn y Senedd.

Dywedodd arweinydd y blaid Leanne Wood fod y Mesur yn "rhoi ag un llaw, a chymryd ag un arall".

Roedd hi'n gwerthfawrogi cymhelliad ACau oedd o blaid y Mesur, meddai, ond roedd Plaid Cymru am weld "llawer iawn mwy" o bwerau'n cael eu datganoli.

Ychwanegodd bod rhesymau'r blaid am wrthod y cynnig - pryder bod y mesur yn gwanhau'r setliad datganoli - yn hollol wahanol i rai UKIP, sydd hefyd yn gwrthwynebu'r newidiadau.

'Cyfle i symud ymlaen'

Ar ran y Ceidwadwyr dywedodd David Melding: "Mae gennym gyfle nawr i symud ymlaen o faterion cyfansoddiadol.

"Dylai'r llywodraeth Lafur yng Nghymru nawr hoelio'u sylw ar wneud y gorau o'u pwerau a chyflawni ar ran cymunedau Cymru - creu swyddi, cynnig gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a buddsoddi yn sgiliau ac ysbryd mentrus pobl Cymru."

Dywedodd arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton, ei fod e'n gefnogol o egwyddorion y mesur.

Ond ychwanegodd fod dileu'r gofyn am refferendwm cyn trosglwyddo pwerau dros dreth incwm - yn unol â'r bwriad gwreiddiol - yn "wallus".

Roedd hi'n "egwyddor bwysig y dylai gwleidyddion gadw at eu gair a chadw eu haddewidion".

Beth yw Mesur Cymru?

Fe fyddai'r mesur yn cyflwyno system o bwerau sydd wedi eu dal yn ôl yn San Steffan, ond mae'r beirniaid yn dweud ei fod yn aneglur ac y gallai arwain at droi'r cloc yn ôl ar elfennau o ddatganoli.

Ymhlith y pwerau newydd yn y mesur mae:

  • Rhywfaint o bwerau ar reoli treth incwm, heb orfod galw refferendwm;
  • Pwerau newydd i'r Cynulliad dros ei materion ei hun - megis etholiadau ac enw'r sefydliad;
  • Pwerau newydd mewn meysydd fel ynni a thrafnidiaeth.

Straeon perthnasol