Gofal brys yng Nghymru: Dadansoddiad Owain Clarke

Owain Clarke

Dadansoddiad ein gohebydd iechyd, Owain Clarke, wrth i ffigyrau am berfformiad y GwasanaethIechyd yng Nghymru gael eu cyhoeddi.

Mae ystadegau sy'n dangos pa mor hir mae cleifion yn treulio mewn unedau brys yn cael eu hystyried yn adlewyrchiad da o'r pwysau sy'n wynebu'r holl wasanaeth iechyd.

Os yw unedau brys dan straen, yna'r tebygrwydd yw fod yr holl system yn wynebu trafferthion.

Mae ffigyrau unedau brys nid yn unig yn dangos y galw am ofal, ond hefyd yn adlewyrchu pa mor gyflym mae cleifion yn symud drwy'r system.

Os yw wardiau ysbytai yn llawn, yna does dim modd trosglwyddo cleifion o'r uned frys, sy'n golygu, ar adegau, fod cleifion yn gorfod aros ar drolïau yn yr adran.

Ar yr un pryd, os yw unedau brys yn llenwi, gallai effeithio'r gwasnaeth ambiwlans, gyda pharafeddygon yn gorfod aros yn hirach cyn trosglwyddo cleifion i ofal staff yr ysbyty.

Ar yr adegau hynny, nid yw'n anarferol gweld ciwiau o ambiwlansys y tu fas i unedau brys.

Image caption Ffigyrau Gwasanaeth Iechyd Cymru

Os nad yw cleifion sy'n ddigon iach i adael ysbyty yn cael eu rhyddhau yn ddigon cyflym, fel os nad oes gofal addas wedi ei drefnu ar eu cyfer adref, yna gall hynny waerthygu'r sefyllfa.

O ganlyniad felly does dim modd diystyru rôl gwasnaethau cymdeithasol mewn unrhyw drafodaeth am y pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Pan fo'r galw am ofal brys yn uchel, gall hynny hefyd amharu ar lawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw.

Os yw unedau gofal dwys yn brysur iawn, yna'n aml gall y math yma o lawdriniaethau gael eu gohirio.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi clustnodi £45m ychwanegol i fyrddau iechyd er mwyn ceisio sicrhau fod llai o lawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw yn cael eu gohirio pan fo'r galw am ofal brys yn uchel y gaeaf hwn.

Yn ôl Prif Weithredwr y Gwasnaeth Iechyd yng Nghymru, dyw hi ddim yn bosib i asesu'r effaith eto, ond mae Dr Andrew Goodall yn ffyddiog fod cynlluniau gaeaf y gwasnaeth iechyd yn gweithio ac yn gadarn.

Perfformio'n waeth na Lloegr?

Yn hanesyddol, mae ystadegau unedau brys wedi awgrymu fod Cymru wedi perfformio'n waeth na Lloegr.

Awgrym rhai arbenigwyr yw fod hyn yn dangos nad oes digon wlâu yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i ateb y galw.

Ond gallai'r bwlch hefyd fod yn adleywrchiad o ffactorau cymdeithasol fel poblogaeth sy'n gyffredinol yn hyn a thlotach, ac o ganlyniad yn llai iach na mewn mannau eraill.

Ond o erdrych yn ôl dros y ffigyrau Cymreig y blynyddoedd diwetha', mae'n amlwg fod y pwysau a'r heriau yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Does neb yn amau fod staff yn aml yn cyflawni gwyrthiau wrth geisio sicrhau fod cleifion yn ddiogel yn wyneb pwysau aruthrol.

Ond y gwir amdani yw does dim awgrym fod y baich am ysgafnhau.