Thomson yn cydnabod na all ennill ras y Vendée Globe

Alex Thomson Image copyright Alex Thomson

Mae'r hwyliwr o Gymru, Alex Thomson wedi cydnabod ei fod annhebygol bellach o ennill ras y Vendée Globe.

Yn gynharach yn yr wythnos, llwyddodd Thomson, 42 oed o Fangor, i hawlio record byd newydd drwy gwtogi'r mantais oedd gan Armel Le Cleac'h drosto i 34 milltir.

Ond mae'r hwyliwr o Lydaw sydd ar y blaen bellach wedi cynyddu ei fantais i 87 milltir ac mae disgwyl iddo groesi'r llinell derfyn yn Sable D'Olonne ar arfordir gorllewinol Ffrainc brynhawn dydd Iau.

"Dwi ddim yn meddwl y galla i ddal Armel," meddai Thomson.

Image copyright Nefertiti/Vendée Globe
Image caption Mae problemau technegol awtopeilot ei gwch wedi bod yn achosi trafferthion i Alex Thomson dros y deuddydd diwethaf

"Mae'r llwybr yn glir iawn - does dim llawer o ddewisiadau gen i ragor, dwi'n meddwl 'mod i wedi rhedeg allan o ospiynau."

Mae problemau technegol gyda system awtopeilot cwch Thomson wedi achosi trafferthion iddo dros y deuddydd diwethaf.

Dyma'r pedwerydd tro iddo gystadlu yn y Vendée Globe, ac roedd yn gobeithio mai fe fyddai'r Prydeiniwr cyntaf i'w hennill.

Ond wedi 74 diwrnod ar y môr, mae disgwyl i Le Cleac'h o Lydaw ennill y ras drwy groesi'r llinell derfyn rhwng 13:00 a 19:00