Pantycelyn: Cawr o artist

wil Wilias
Image caption Williams Pantycelyn: "Cawr o artist, cwbl chwyldroadol"

Eleni mae hi'n drichanmlwyddiant geni'r emynydd blaenllaw William Williams, Pantycelyn. Bydd nifer o raglenni i ddathlu'r achlysur ar Radio Cymru ar 29 Ionawr.

Yr Athro Derec Llwyd Morgan sy'n esbonio gwaddol Williams i'r genedl. Mae o hefyd yn gresynu nad ydy' 'Hen Bant' yn cael yr un gydnabyddiaeth a rhai llenorion blaenllaw eraill.


Adeg canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014 cafwyd cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i gynnal y dathliadau. Yr un modd y llynedd, adeg canmlwyddiant Roald Dahl. Y mae eleni yn drichanmlwyddiant William Williams Pantycelyn, ond a geir unrhywbeth o'r pwrs cyhoeddus i hybu'r dathlu? Na cheir, ni cheir yr un geiniog.

Wrth gwrs, y mae gwerth masnachol i enwau Dylan Thomas a Roald Dahl: gallant ddenu Americaniaid ac eraill i dreulio'u gwyliau yng Nghymru, a llenwi tipyn ar goffrau'r hen wlad. Am Williams, efallai y bydd llond ugain bws o gapelwyr sy'n dotio ar eu lu emynau yn ymweld â'r hen ffarm lle trigodd gynt y tu allan i Lanymddyfri, ond dyna'r oll.

Troedigaeth

Ac eto, y mae'n bwysig iawn dathlu trichanmlwyddiant Williams, yn syml iawn am ei fod yn fardd a llenor mor fawr. Yr oedd yn gawr o artist cwbl chwyldroadol. Yn 1813 dywedodd Thomas Charles o'r Bala amdano ei fod, drwy ei lenyddiaeth, wedi effeithio 'cyfnewidiad neillduol ar agwedd crefydd yn mhlith y Cymry'. Aeth Saunders Lewis, yn 1927, ymhellach, a dweud mai Williams 'oedd y bardd rhamantus, a'r bardd modern, cyntaf yn Ewrop.'

Beth yn union oedd ei gyfraniad? Yn 1737 cafodd droedigaeth ar ôl gwrando ar Howell Harris yn pregethu ym mynwent eglwys Talgarth pan oedd ar ei ffordd tua thref o Academi Llwyn-llwyd. Y ddau beth nodedig y gellir eu dweud amdano yn 1737 oedd fod ei fam 30 mlynedd yn iau na'i dad, a'i fod yn dal i ddilyn cwrs addysg er ei fod yn ugain mlwydd oed.

Cyn ei droedigaeth grefyddol, ar fod yn feddyg gwlad yr oedd ei fryd, a pharhau i ffermio efallai. Bellach mynnai bregethu. Ymunodd ag Eglwys Loegr, yr hon a'i cododd yn ddiacon, a'r hon yn y man a'i gwaredodd o'i ofalaeth, gan honni ei fod yn esgeulus ohoni.

Image copyright John Lord/Geograph
Image caption Faint fydd yn mynd ar bererindod i fferm Pantycelyn ger Llanymddyfri eleni?

Natur crefydd

Y gwir amdani yw nad esgeuluso pobl yr oedd Williams, ond gweithio ymhlith pobl debyg iddo fe'i hun, y miloedd ar filoedd o Gymry (ifanc gan mwyaf) fel efe a brofodd droedigaethau crefyddol o dan bregethu Harris a Daniel Rowland Llangeitho.

Erbyn dechrau'r pedwardegau trefnwyd seiadau (private societies) ar gyfer y bobl hyn, a elwid yn ddychweledigion, seiadau lle rhoddid trefn ar eu profiadau, lle eglurid iddynt beth oedd ystyr y pethau a deimlent ac a feddylient ynghylch eu Duw.

Yr oedd gan Williams athrylith seicolegydd, ac ef, mewn cyfres o lyfrynnau cynnar ac yn y llyfr rhyfeddol Drws y Society Profiad (1777), a eglurodd i'r Cymry Methodistaidd natur eu crefydd nwydus.

Fe wnaeth hynny hefyd mewn cerdd epig faith o'r enw Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764). Theomemphus yw'r creadur mwyaf cnawdol a greodd yr un llenor o Gymro erioed, goruwchddyn erchyll ei bechodau sydd hefyd yn llanc a faged yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif ac y tarfwyd arno'n ddychrynllyd gan rym y Diwygiad Efengylaidd.

Os oedd Williams yn seicolegydd, yr oedd hefyd yn gymdeithasegwr, yn un a fynnai roi trefn a dosbarth ar fywyd beunyddiol ei breiddiau. Ei gyfrol gymdeithasol ardderchocaf yw Cyfarwyddwr Priodas, sy'n dangos synnwyr cyffredin cryf a ffraethineb hefyd.

Ond nid am ei ddawn fel seicolegydd nac am ei ddawn fel cymdeithasegwr y cofiwn am Williams, eithr am iddo ysgrifennu barddoniaeth grefyddol mor gyffrous o newydd a chofiadwy. Yr oedd y grefydd a bregethid gan Harris a Rowland yn grefydd hanfodol bersonol, deimladol iawn iawn. Crefydd ydoedd yn pwysleisio'r ffaith fod Iesu Grist wedi marw er mwyn achub pob unigolyn a gredai ynddo.

'Yr Hen Bant'

O 1744 ymlaen, ysgrifennodd Pantycelyn emynau herfeiddiol eu harddull a'u cynnwys sy'n uniaethu profiad a diwinyddiaeth, a hynny mewn ieithwedd sy'n gymysgedd o dafodiaith Sir Gaerfyrddin a Chymraeg Beibl William Morgan. Y mae ynddynt hyfrda serchus, y mae ynddynt gyfeiriadau ysgrythurol, dramatigrwydd hefyd. Williams a roddodd dafod i enthusiasm crefyddol newydd y Cymry.

'Yr Hen Bant' oedd enw anwesol Wil Bryan amdano yn y nofel Rhys Lewis gan Daniel Owen. Mynnu cael dweud yr oedd Wil fod Yr Hen Bant a Mari Lewis, mam grefyddol Rhys, yn chums, am fod Mari'n dyfynnu Williams o hyd.

Dyfynnwn ninnau ef hefyd yn 2017 - weithiau. Weithiau, am mai ychydig ohonom sy'n addoli bellach. Ni waeth am hynny. Y mae William Williams yn dal i fod yn gawr yn ein llenyddiaeth, yn gawr y mae'n werth dathlu trichanmlwyddiant ei eni gyda hyfrydwch a hyder.

Image caption Yr Athro Derec Llwyd Morgan

Bydd sawl agwedd o fywyd a gwaith William Williams Pantycelyn yn cael sylw yn ystod diwrnod arbennig o ddathliadau ar BBC Radio Cymru ar Ddydd Sul, 29 Ionawr