Rhybudd am broblemau gyda thargedau ailgylchu caeth

Poteli

Mae aelod Cynulliad wedi rhybuddio y gallai targedau ailgylchu caeth arwain at fwy o waredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Yn ôl Lee Waters, AC Llafur dros Lanelli, mae tyndra rhwng cyrraedd targedau ailgylchu cenedlaethol a gwthio targedau'n rhy bell.

Mae'n dweud fod sbwriel a phobl yn cael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon yn broblem yn Llanelli, ac mae'n fater sy'n cael ei godi dro ar ôl tro gan bobl yno.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n "ymddiheuro am ein hymrwymiad" i ailgylchu.

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin bod y sir yn "gweithio'n galed" i ddelio â phroblemau sbwriel yn Llanelli.

Image caption Dywedodd Lee Waters AC fod peryg y gall targedau ailgylchu greu "canlyniadau annisgwyliadwy"

'Canlyniadau eraill'

Dywedodd Mr Waters bod Cyngor Sir Gaerfyrddin, sy'n cwmpasu ei etholaeth, yn lwyddiannus o ran targedau ailgylchu ond bod gan hyn oblygiadau eraill.

"Mae'r cyngor yn gwneud popeth am y rhesymau gorau ond mae hyn yn creu canlyniadau eraill," meddai.

"Er enghraifft mae 'na bolisi sy'n cynnwys pedwar bag bin bob pythefnos. Mae rhai teuluoedd yn ceisio osgoi hyn drwy roi eu bagiau biniau o flaen tai cymdogion ac mae hyn yn cael ei nodi a phobl yn cael eu herlyn, sydd yn gywir, ond i osgoi hyn maen nhw wedyn yn cael gwared â'r sbwriel yn anghyfreithlon."

''Dyn nhw ddim yn poeni'

Mae Christine Clarke yn byw yn y dref ac yn un sydd wedi dioddef pobl yn cael gwared ar wastraff o fagiau biniau du tu ôl i'w chartref.

Dywedodd: "Mae wedi bod yn erchyll. Mae na lygod mawr wedi bod yn rhedeg o amgylch y lle, ac nid yn yr heol yma'n unig, mae'n digwydd yn hewlydd cefn Llanelli i gyd.

"Mae pobl yn taflu stwff mas a gan nad ydi e o flaen eu llygaid 'dyn nhw ddim yn poeni."

Ychwanegodd Mr Waters: "Mae gan Sir Gaerfyrddin rhai o'r cyfraddau ailgylchu gorau yn y wlad. Rydyn ni wedi gwneud y gwaith hawdd, nawr rhaid canolbwyntio ar y darn anodd - sef y teuluoedd a'r bobl sydd ddim am gydweithio.

"Mae'n rhaid dod i gasgliad am ba mor bell rydyn ni am wthio hyn achos os 'dyn ni'n gwthio'n rhy bell, yn rhy gyflym, rydyn ni'n mynd i greu canlyniadau annisgwyliadwy.

"Felly fe fydden ni'n cyrraedd ein targedau sbwriel ond hefyd yn creu problemau gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon, ac fe fydd problemau sbwriel ehangach yn cynyddu'r costau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin bod yr awdurdod yn "gweithio'n galed" i fynd i'r afael â phroblemau sbwriel yng nghanol Llanelli.

"Rydyn ni'n gweithredu mewn nifer o ffyrdd i ddatblygu atebion i rai o'r problemau tymor-hir, yn enwedig ar lonydd cefn, a hefyd yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr y gymuned i ddatrys rhai o'r problemau," meddai.

"Rydyn ni hefyd yn edrych ar strydoedd ac ardaloedd penodol sydd â phroblemau sbwriel a gwastraff parhaus er mwyn cynnal 'diwrnod tasglu' gyda chydweithwyr o adrannau eraill fel amddiffyn y cyhoedd a thai."

Casglu sbwriel

Ardal arall o Gymru sydd wedi gweld problemau tebyg yw Conwy, lle mae nifer o drigolion yn anfodlon gyda phenderfyniad y cyngor yno i gasglu sbwriel cyffredinol bob tair wythnos yn hytrach na phob pythefnos.

Dywedodd yr AC Ceidwadol lleol, Darren Millar, fod 'na gefnogaeth i gasglu sbwriel bob pythefnos yn y gorffennol a bod y cyfraddau ailgylchu ymysg y gorau yn y wlad, ond bod agwedd pobl wedi newid ers i'r cyngor ddiwygio'r drefn o gasglu sbwriel.

Ychwanegodd fod penderfyniad y cyngor i gasglu sbwriel bob tair wythnos wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn sbwriel sydd wedi ei adael ar ochr y ffordd a phobl yn cael gwared ar sbwriel yn anghyfreithlon.

'Gwastraffu £1.6m'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy fod y newid i gasglu bob tair wythnos, ac arbrawf i gasglu unwaith y mis, wedi eu cyflwyno ym mis Medi'r llynedd.

Ychwanegodd bod hynny wedi dod yn sgil astudiaeth oedd yn dangos fod dros hanner yr eitemau mewn biniau yn y sir i fod i gael eu hailgylchu, gan wastraffu £1.6m bob blwyddyn.

"Os oes gan drigolion bentwr o fagiau bin ychwanegol sydd ddim yn gallu mynd i mewn i'w biniau, fel rhan o'r arbrawf rydym yn ymweld â thai unigol i weld beth sydd ynddyn nhw a sut allwn helpu," esboniodd y llefarydd.

Mewn ymgais i wella cyfraddau ailgylchu yn Abertawe, mae'r cyngor wedi cyflwyno cyfyngiad o dri bag bin du i bob eiddo ar gyfer casgliadau bob pythefnos, ac mae'r awdurdod yn dweud fod hyn yn llwyddiant mawr wrth geisio cyrraedd targedau ailgylchu cenedlaethol.

'Ymrwymiad'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydyn ddim yn ymddiheuro dim am ein hymrwymiad i gynyddu maint y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu fel cenedl.

"Wrth ailgylchu mwy rydym yn cwtogi'r angen i ddefnyddio adnoddau naturiol, gostwng yr angen am dirlenwi a hefyd yn arbed arian. Rydym yn gwneud cynnydd gwych yn barod.

"Ni yw'r bedwaredd genedl orau yn Ewrop o ran perfformiad, gan arwain y ffordd yn y DU ac o flaen y targed ailgylchu o 58% gafodd ei osod yn ein strategaeth ailgylchu.

"Mater i awdurdodau lleol unigol yw pa mor aml maen nhw'n casglu gwastraff. Mae tystiolaeth gan awdurdodau lleol yn dangos fod cyfyngu ar wastraff dros ben yn cynyddu ailgylchu ac yn cwtogi ar gostau gwaredu."

Ychwanegodd y llefarydd: "Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth sy'n cysylltu newid yn niferoedd y casgliadau gwastraff gyda chynnydd mewn gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon.

"Fe wnaethon ni lansio ymgynghoriad yn ddiweddar i holi barn cyrff perthnasol ar argymhellion i roi grymoedd i awdurdodau lleol allu cyflwyno hysbysiadau cost benodedig."