Protestiadau yng Nghymru wrth i Trump gael ei urddo

Ymgyrchwyr ar Bont y Werin ym Mhenarth, Bro Morgannwg
Image caption Ymgyrchwyr ar Bont y Werin ym Mhenarth, Bro Morgannwg

Mae ymgyrchwyr yng Nghymru wedi bod yn dangos eu gwrthwynebiad i Donald Trump cyn iddo gael ei urddo yn arlywydd Unol Daleithiau America ddydd Gwener.

Mae baneri sy'n galw am "Adeiladu pontydd nid waliau" wedi cael eu gosod mewn lleoliadau ar draws y wlad.

Hefyd, mae protest wedi'i threfnu gan fudiad Hope Not Hate yng Nghaerdydd ac un arall yn Abertawe gan grŵp Stand Up To Racism.

Er gwaethaf y gwrthwynebiad, mae eraill, gan gynnwys arweinydd UKIP yn y Cynulliad, wedi datgan eu cefnogaeth i Mr Trump.

Image copyright Alice Hooker-Stroud
Image caption Protestwyr ger Pont Ddyfi, Machynlleth

Un o'r grwpiau fu'n lleisio eu barn yw mudiad Y Canolbarth dros Ffoaduriaid, wnaeth osod baner ar Bont Ddyfi ger Machynlleth, Powys.

Cafodd baner ei dadorchuddio ar Bont y Werin ym Mhenarth, Bro Morgannwg, yn ogystal.

Ar ôl i Mr Trump gael ei ethol y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bod gan yr arlywydd newydd "lawer o waith i'w wneud i uno cenedl ranedig".

Ond croesawu ethol Mr Trump wnaeth arweinydd Neil Hamilton, arweinydd UKIP yn y Senedd.

"Mae pobl wedi gwrthryfela'n erbyn sefydliad Washington yn yr un modd â gwrthryfel Brexit yn erbyn y sefydliad Ewropeaidd a dwi'n meddwl bod hwnna'n beth da," meddai.

Image copyright Taz Rahman
Image caption Ymgyrchwyr yn ardal Cathays, Caerdydd, yn paratoi baner