Marwolaeth Llandaf: Dyn yn cyfaddef dynladdiad

Xixi Bi Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw Xixi Bi ym mis Awst yn y tŷ ar Heol Ely yn Llandaf

Mae dyn 23 oed wedi gwadu llofruddio ei gariad o China yn eu cartref yng Nghaerdydd.

Fe ymddangosodd Jordan Matthews yn Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo o'r carchar, gan gyfaddef i ddynladdiad yn lle hynny.

Cafodd Xixi Bing, 24, ei darganfod yn farw gan barafeddygon yn y cartref ar Ffordd Trelai, Llandaf ar 19 Awst llynedd.

Fe fydd Mr Matthews yn cael ei gadw yn y ddalfa tan yr achos llofruddiaeth gerbron Mrs Ustus Nicola Davies ar 2 Chwefror.

Roedd Mr Matthews wedi bod mewn perthynas â Ms Bi am dros flwyddyn ar ôl iddi ddod i Brifysgol Caerdydd i astudio.

Cafodd Ms Bi ei magu yn Nanjing, China ac fe aeth i astudio yn Rhydychen cyn symud i Gymru.

Cafodd ei chorff ei gludo nôl at ei theulu yn China yn dilyn ei marwolaeth.