'Williams, Pantycelyn yn cael ei anwybyddu' medd ysgolhaig

William Williams
Image caption Mae'n 300 mlynedd ers geni William Williams, Pantycelyn

Mae hi'n warthus nad oes dathliad cenedlaethol i goffáu geni William Williams, Pantycelyn 300 mlynedd yn ôl, meddai un ysgolhaig.

Yn ôl yr Athro Derec Llwyd Morgan mae ffigyrau dylanwadol eraill o Gymru wedi eu cofio, ond does dim digon o sylw wedi ei roi i'r cyfansoddwr emynau.

Fe wnaeth gyfansoddi cannoedd o emynau, gyda nifer yn dal i gael eu canu hyd heddiw.

Er nad oes cofnodion i gadarnhau ei union ddyddiad geni, y gred yw bod hynny rhwng hanner olaf Ionawr a dechrau Chwefror 1717. Mae cofnodion yn dangos iddo gael ei fedyddio ar 11 Chwefror.

Dywedodd yr Athro Derec Llwyd Morgan: "Rhoddwyd grantiau hael gan Lywodraeth Cymru i ddathlu canmlwyddiannau Roald Dahl a Dylan Thomas ond a hithau yn 300 mlynedd ers geni'r pêr ganiedydd, does 'na ddim sôn am ddathliad cenedlaethol.

"Bobl bach, dyma'r dyn a greodd y dychymyg modern yng Nghymru."

'Tad yr emyn cynulleidafol'

Un arall sy'n gweld ei fawredd ac sydd wedi ysgrifennu'n helaeth arno yw'r Athro Wyn James: "Dyma volcano o ddyn ac ef yn ddi-os yw tad yr emyn cynulleidfaol Cymraeg.

"Mi gyfansoddodd oddeutu 1,000 o emynau, ac y mae nifer helaeth ohonynt yn cael eu canu hyd heddiw."

Image caption Roedd William Williams yn "athrylith" meddai'r Athro Derec Llwyd Morgan

Ymhlith yr emynau hynny mae Arglwydd arwain drwy'r anialwch (Guide me, O thou great Jehovah); O llefara addfwyn Iesu; Iesu Iesu, rwyt ti'n ddigon; Pererin wyf; O nefol addfwyn Oen; a channoedd mwy.

Ond mae'n bwysig cofio ei fod yn fwy na dim ond cyfansoddwr, meddai Derec Llwyd Morgan.

"Rhaid cofio hefyd am ei weithiau rhyddieithol, nifer ohonynt yn dangos gwybodaeth wyddonol, ddaearyddol a seicolegol eang," meddai.

"Credai Williams yn gryf mewn cyflwyno gwybodaeth i genedl anwybodus.

"Ef a ysgrifennodd y llyfrau seicolegol cyntaf yn Gymraeg ac fe dorrodd dir newydd wrth gyfeirio at nwydau a serchiadau yn gyhoeddus. Dyma wir athrylith y Cymry."

Ar ddydd Sul, 29 Ionawr, fe fydd hi'n ddiwrnod Pantycelyn ar BBC Radio Cymru.

Un o'r rhai a fydd yn ceisio dod i adnabod Pantycelyn yn well yw'r Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick.

Mae'n un o ddisgynyddion uniongyrchol Williams, Pantycelyn.

Image caption Vaughan Roderick a'i chwaer Siân yn pori drwy drysorau'r teulu

Dywedodd: "Fe fyddai i a'n chwaer fach Siân yn ceisio dod i adnabod ein hen datcu yn well drwy fynd i Dalgarth i weld man ei droëdigaeth, i Bantycelyn i weld Cecil Williams - disgynnydd arall i Bantycelyn - ac i lan y bedd yn Llanfair-ar-y-bryn.

"Fe fydd Cecil yn dangos tebot a chloc Williams i fi ac yn fy nhywys drwy'r llyfr ymwelwyr - ac mae nifer wedi bod ym Mhantycelyn ar hyd y blynyddoedd - yn eu plith Lloyd George, John Morris-Jones a nifer o'm teulu i."

Hen rigwm

"Mi fydd Cecil yn fy atgoffa hefyd o hen rigwm a gyfansoddodd Williams pan oedd e oddi cartre'. Do'dd e fawr gartre.

"Wrth gwrs, mi deithiodd, mae'n debyg, 3,000 o filltiroedd ar gefn ei geffyl bob blwyddyn am 50 mlynedd - pedair gwaith rownd y byd!

"Oedd fy nhad yn arfer adrodd y rhigwm ond ro'wn i wedi'i anghofio":

Hed y gwcw, hed yn fuan

Hed y deryn las ei liw

Hed oddi yma i Bantycelyn

A gwed wrth Mali mod i'n fyw.

Image caption Gwallt coch Williams yn Amgueddfa Trefeca

"Mi oedd gan Williams, gyda llaw, wallt coch ac fe fyddwn ni hefyd yn mynd ar drywydd hwnnw. Yn ôl y sôn agorwyd bedd Williams ar un adeg a chan fod ei wallt yn parhau yn goch torrwyd cudyn ohono - ac mae hwnnw i'w weld yn Amgueddfa Trefeca.

"Efallai nad yw'r awen emynyddol wedi'i throsglwyddo ond yn sicr mae gan nifer o'r teulu wallt coch.

"Yn fwy na dim, wrth gwrs, fe fydd y rhaglen yn rhoi cyfle i ni ailfeddwl be' ma' Williams yn ei olygu i'n cenhedlaeth ni."

Rhaglenni BBC Radio Cymru dydd Sul 29 Ionawr a dydd Llun 30 Ionawr

  • 8:02 Bwrw Golwg- trafod gwaddol ac olyniaeth Pantycelyn heddiw.
  • 11:30 Oedfa arbennig dan ofal Rhidian Griffiths fydd yn canolbwyntio ar emynau Pantycelyn.
  • 13:00 Pantycelyn - Vaughan Roderick yn mynd ar daith i olrhain hanes ei hen datcu.
  • 16:00 Hawl i Foli - Cwis emynau wedi'i gadeirio gan Huw Edwards a'i recordio o flaen cynulleidfa yng Nghapel Salem Llangennech.
  • 16:30 Caniadaeth y Cysegr arbennig gyda Chôr Caerdydd yn dathlu emynau Pantycelyn.
  • 17:30 Rhaglen Dei Tomos yn holi Densil Morgan am ei ragarweiniad i argraffiad newydd o gyfrol Saunders Lewis, William Williams, Pantycelyn.
  • 18:00 Dydd Llun, 30 Ionawr ar y rhaglen Dan yr Wyneb bydd Dylan Iorwerth yn trafod pam ein bod ni fel cenedl yn gyndyn o ddathlu arwyr ein hanes.