Buddugoliaeth syfrdanol i'r Elyrch yn Lerpwl

Lerpwl Abertawe Image copyright Reuters
Image caption Gulfi Sigurdsson sgoriodd y drydedd gôl i Abertawe yn y fuddugoliaeth yn Anfield

Cododd Abertawe o waelod tabl Uwch-gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn yn dilyn buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Lerpwl yn Anfield.

Wedi hanner cyntaf di-sgor, aeth Fernando Llorente â'r Elyrch ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner gyda dwy gôl o fewn pedair munud i'w gilydd.

Fe rwydodd Roberto Firmino ddwywaith i ddod â'r tîm cartref yn ôl yn gyfartal ond gydag 16 munud i fynd o'r 90, fe sgoriodd Gylfi Sigurdsson drydedd gôl Abertawe.

Llwyddodd yr Elyrch i ddal gafael o'r fantais er gwaetha dros bum munud o chwarae ychwanegol.

Image copyright Reuters
Image caption Chwaraewyr Abertawe'n dathlu wedi'r drydedd gôl

Dyma fuddugoliaeth gynta'r Elyrch dan eu rheolwr newydd, Paul Clement.

Mae'r fuddugoliaeth hefyd yn golygu mai Abertawe yw'r tîm cyntaf i guro Lerpwl yn Anfield ers dros flwyddyn.

Dywedodd Iwan Roberts, cyn ymosodwr Cymru a Norwich, oedd yn sylwebu ar y gêm ar raglen Camp Lawn BBC Radio Cymru: "Roedd eu disgyblaeth nhw yn anhygoel, chwarae teg.

"Mi wneith y canlyniad yma godi clwb Abertawe mor uchel.

"Maen nhw allan o'r tri ar y gwaelod, a dwi'n gwybod bod ganddyn nhw gymaint o ffordd i fynd i wneud yn siwr eu bod nhw'n dal yn yn yr uwch-gynghrair y tymor nesaf, ond mae yna obaith rwan."