Cysegru esgob benywaidd cyntaf Cymru, Joanna Penberthy

Esgob
Image caption Cymeradwyaeth wrth i'r Esgob Joanna Penberthy gael ei chysegru yng Nghadeirlan Llandaf

Cafodd esgob benywaidd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru ei chysegru mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd yr Esgob Joanna Penberthy ei chysegru yn Esgob Tyddewi yng Nghadeirlan Llandaf am 11:00.

Roedd wedi ei hethol gan aelodau ym mis Tachwedd.

Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at "ymuno â phobl Tyddewi", tra bod Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, wedi disgrifio'r achos fel un "hanesyddol".

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cymeradwyaeth wrth i Joanna Penberthy gael ei chysegru'n Esgob Tyddewi

Daw'r penodiad yn dilyn ymddeoliad Wyn Evans, fu wrth y llyw am wyth mlynedd.

Cafodd y penderfyniad i ganiatáu menywod i fod yn esgobion ei wneud yn 2013.

Dywedodd yr Esgob Penberthy, sy'n 56 oed ac sydd wedi bod yn ficer yn Sir Gâr ac yn Ganon Tyddewi, ei bod "yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ymuno â phobl esgobaeth Tyddewi wrth i ni fyw a rhannu ein ffydd yng Nghrist".

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Archesgob Cymru'n mynegi ei falchder o gael cysegru Joanna Penberthy cyn iddo ymddeol
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Yn ôl Eileen Davies, Siapter Cadeirlan Tyddewi, mae'r gwasanaeth wedi uno aelodau'r eglwys.

Esgob Joanna Penberthy

  • Cafodd ei geni yn Abertawe a'i magu yng Nghaerdydd
  • Cafodd ei haddysg yng Nghaerdydd, Coleg Newnham, Caergrawnt ac yna Durham
  • Cafodd ei hordeinio'n ddiacon yn 1987, ac yn un o'r menywod cyntaf i fod yn offeiriad yn 1997
  • Mae hi wedi gwasanaethu yn Durham, Llandaf, Llanelwy, Tyddewi, Caerfaddon, Abertawe ac Aberhonddu
  • Yn briod i'r Parchedig Adrian Penberthy, mae ganddi bedwar o blant
  • Mae hi'n siarad Cymraeg.