Barnet 0-0 Casnewydd

Barnet Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ymdrech David Pipe (dde) at y gôl

Llwyddodd Casnewydd i gadw'u pennau a sicrhau'i ei hail gêm gyfartal o'r bron, er gwaethaf ymdrechion Barnet am fuddugoliaeth yn yr ail hanner.

Fe ddaeth David Pipe yn agos at sgorio dros yr ymwelwyr yn yr hanner cyntaf, ond Barnet reolodd y gêm wedi'r toriad.

Golwr Casnewydd, Joe Day oedd yr arwr, wrth iddo arbed ergydion gan Simeon Akinola a Mauro Vilhete.

Serch hynny, mae Casnewydd yn parhau ar waelod tabl yr ail gynghrair.