Caer 1-1 Wrecsam

peldroed

Mae Wrecsam yn y 13eg yn nhabl y Cynghrair Cenedlaethol wedi gêm gyfartal yn erbyn Caer.

Y Dreigiau sgoriodd gyntaf gyda gôl gan John Rooney wedi 52 o funuday, cyn i James Alabi ddod â'r tîm cartref yn gyfartal saith munud yn ddiweddarach.

Fe aeth Caer i lawr i 10 dyn ar ôl i Luke George gael cerdyn coch gydag 11 munud i fynd, ond methodd Wrecsam â manteisio ar hynny.