Gorymdeithiau i alw am ddiogelu hawliau cyfartal

Protestiadau Trump
Image caption Daeth cannoedd o bobl i brotestio ger cofeb Aneurin Bevan yng Nghaerdydd

Ar ddiwrnod llawn cyntaf Donald Trump yn arlywydd yr Unol Daleithiau, cafodd protestiadau eu cynnal mewn gwledydd ar draws y byd yn galw am ddiogelu hawliau merched.

Yng Nghymru fe orymdeithiodd tua 300 o bobl ym Mangor a daeth cannoedd at ei gilydd yng nghanol Caerdydd.

Yn ei araith ddydd Gwener, pwysleisiodd yr Arlywydd Trump mai ei fwriad yw uno'r genedl a rhoi'r grym yn ôl yn nwylo pobl America.

Mae llawer o'i wrthwynebwyr yn poeni mai creu mwy o anghyfartaledd y bydd yn ei wneud.

Image caption Daeth tua 300 i brotestio ym Mangor