Sale Sharks 25-23 Scarlets

Sale Scarlets Image copyright Reuters

Colli fu hanes y Scarlets yn erbyn Sale yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Chwarae am eu balchder yr oedd y tîm wedi'r golled greulon yn erbyn y Saracens y penwythnos diwethaf .

Roedd Sale 16 pwynt ar y blaen ar yr hanner ond llwyddodd troed ddibynadwy Dan Jones i gadw'r Sgarlets yn y gêm yn ogystal â chais Daniel Tailliferrer Hauman van der Merwe.

Llwyddodd y tîm cartref i hawlio'r fuddugoliaeth serch hynny, ar ôl colli eu 10 gêm diwethaf.