Zulu: Y Cymry a Rorke's Drift

Image copyright Amgueddfa Catrawd y Cymry Brenhinol
Image caption Dehongliad yr artist W F Dugan o frwydr Rorke's Drift

Mae hi ymhlith y brwydrau enwocaf yn hanes milwrol y DU, ac mi chwaraeodd y Cymry ran flaenllaw yn yr hyn ddigwyddodd yn Ne Affrica ar 22 Ionawr 1879.

Yr hanesydd Bob Morris sy'n bwrw golwg yn ôl ar frwydr Rorke's Drift


Roedd darganfod diemwntiau yn ardal Kimberley ac aur yn nyffryn Witwatersrand ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif wedi golygu bod dylanwad Prydain wedi ehangu yn Ne Affrica. O ganlyniad i hyn bu cyfres o ryfeloedd rhwng Prydain a chenhedloedd Affricanaidd brodorol, megis y Xhosa, y Basuto, yr Ashanti a'r Matabele.

rbyn yr 1870au roedd trefedigaethau Prydain yn ymestyn i Natal, ac yn ffinio ar deyrnas annibynol y Zulu. Cwynai'r ymfudwyr gwynion yn Natal eu bod yn pryderu rhag pwer milwrol mawr y Zulu, o dan ei brenin grymus Cetshewayo. Roedd Cetshewayo eisoes wedi trechu nifer o lwythau Affricanaidd eraill, ac roedd ganddo fyddin ddisgybledig o tua 40,000 o ddynion (allan o boblogaeth y genedl o ryw 300,000)

Mi geisiodd Syr Bartle Frere, rhaglaw Prydain yn Ne Affrica, ddod i gytundeb gyda Cetshewayo am faterion fel anghytundebau ffin. Ond aeth Frere ati i osod gofynion cwbl annerbyniol ar y Zulu, er mwyn cael esgus i fynd i ryfel a chwalu eu grym milwrol.

Ar 11 Ionawr 1879, dechreuodd byddin o 13,000 o filwyr o dan arweiniad yr Arglwydd Chelmsford, ymosod ar y Zulu.

Image copyright Amgueddfa Catrawd y Cymry Brenhinol

"Cyflafan a buddugoliaeth"

Mewn gwirionedd, stori am ddwy frwydr ar yr un diwrnod yw hon, y naill yn gyflafan drychinebus a'r llall yn fuddugoliaeth ryfeddol ac annisgwyl,

Erbyn 22 o Ionawr roedd Chelmsford a'i fyddin wedi croesi'r afon Buffalo ger Rorke's Drift ac wedi codi gwersyll yn nyffryn Isandhlwana. Cafodd neges bod byddin y Zulu yn mynd i'r cyfeiriad arall ac aeth i chwilio amdanyn nhw, gan adael yr Is-Gyrnol Pullein a 554 o filwyr i warchod y gwersyll - aelodau o Gatrawd 24 o'r Gwŷr Traed (Infantry).

Ymhen rhai oriau daeth newyddion i'r gwersyll bod byddin enfawr o'r Zulu yn ymgynnull tu ôl i fryniau cyfagos. Ymosododd y Zulu ar y gwersyll a oedd ar lawr dyffryn agored, ac fe gafodd pob un o'r amddiffynwyr eu lladd mewn cyflafan enbyd.

"Aeth byddin y Zulu ymlaen wedyn i feddiannu'r rhyd ger Rorke's Drift, ac ymosod ar y ffermdy a chanolfan genhadol a oedd yno. Dim ond 84 o Gatrawd 24 oedd yno. Roedd colofn Chelmsford wedi gadael y rhain yno i warchod y rhyd strategol hon. Ar wahân i'r milwyr hynny, roedd yno hefyd 35 o gleifion dan ofal Swyddog Meddygol a chwmpni o filwyr Affricannaidd o Natal, rhai ohonynt yn rheoli'r drafnidiaeth dros y rhyd, o dan swyddog o'r Peirianwyr Brenhinol, y Lifftenant John Chard - cyfanswm o tua 140 o ddynion."

Stanley Baker oedd yn portreadu Chard yn y ffilm Zulu.

Image caption Zulu: Mi wnaeth y frwydr ysbrydoli'r Cymro Stanley Baker i gynhyrchu ffilm am y digwyddiad.

Sachau blawd a thuniau bisgedi

Bu Chard a Lifftenant Gonville Bromhead, swyddog Catrawd 24 yn cydweithio yn hynod effeithiol trwy oriau peryglus yr argyfwng. Mi benderfynon nhw dynnu eu pebyll i lawr a gosod sachau blawd a bocsys bisgedi o'r storfa i greu clawdd yn amgylchynu'r ddau adeilad a chau'r buarth rhyngddyn nhw - cylch o ryw 300 llath. Serch hynny, baricêd ddim mwy na rhyw ddwy droedfedd o uchder oedd y clawdd.

Credir bod tua 4,000 o filwyr Zulu wedi ymosod ar Rorke's Drift. Roedd rhai ar y bryn tu ôl i'r fferm yn tanio i lawr gyda drylliau a oedd, o bosibl, wedi eu cipio yn y frwydr flaenorol. Ond defnyddiai'r mwyafrif dacteg draddodiadol y Zulu, sef rhuthro yn rhengoedd siap-cilgant (crescent), ton ar ôl ton, pob un yn trywanu gyda'i waywffon, yr asegai, gydag un llaw ac yn dal ei darian gyda'r llall.

Llwyddodd y Zulu i gipio'r gerddi a'r berllan ger y fferm, a defnyddio'r perthi a'r coed fel rhywfaint o gysgod rhag bwledi'r amddiffynwyr, wrth nesáu at y buarth.

Yn ddi-os, roedd arfogaeth y milwyr Prydeinig yn rhoi mantais iddyn nhw, gyda'r reifflau Martini-Henry yn gallu tanio'n gyflymach na llawer o ynnau'r cyfnod. Dywedodd y rhai a fu'n amddiffyn yr ysbyty bod ei reifflau'n poethi gymaint wrth eu tanio fel eu bod yn eu newid yn hytrach nac ail-lwytho.

Yn ôl amcangyfrif cafodd 20,000 o fwledi eu tanio yn ystod y frwydr. Cafodd 370 o filwyr y Zulu a 27 o'r amddiffynwyr eu lladd.

Aeth y brwydro ymlaen drwy'r rhan fwyaf o'r nos, tan tua 4 o'r gloch y bore trannoeth (Ionawr 23). Erbyn hyn roedd y Zulu wedi cilio i'r llechweddau cyfagos. Er iddyn nhw ymddangos tua 7.30 y bore hwnnw, wnaethon nhw ddim ymosod ymhellach.

Mae ambell i ffynhonnell yn credu bod y fyddin trwy amgylchynnu'r gwersyll, wedi torri gorchymyn brenin Zulu i beidio croesi ffin Natal. Mae eraill yn awgrymu eu bod wedi deall bod Chelmsford a'i ddynion yn nesáu ac nad oedden nhw yn barod am frwydr waedlyd arall.

Image copyright Amgueddfa Catrawd y Cymry Brenhinol
Image caption Rorke's Drift wedi'r brwydro

Cydnabod y Cymry

Cafodd 11 Croes Victoria eu rhoi i rai a fu'n amddiffyn Rorke's Drift - y nifer uchaf erioed mewn un frwydr. Yn ogystâl â Chard a Bromhead cafodd dau filwr o sir Fynwy eu gobrwyo. Roedd y Preifat Robert Jones yn dod o Dynewydd, ger Rhaglan, a John Williams, o'r Fenni.

Roedd Robert Jones wedi bod yn amddiffyn un o wardiau'r ysbyty. Mi fuodd o a William Jones (o Evesham) yn tanio at y Zulu bob yn ail tra roedd y llall yn torri'r parwydydd rhwng y wardiau i gael y cleifion allan. Llwyddodd y ddau i gael chwech o'r saith claf allan yn ddiogel. Gwrthododd y seithfed â mynd, ac fe gafodd ei ladd. Cafodd Robert Jones ei anafu bedair gwaith gan asegais y Zulu, ac unwaith gan fwled.

Mi ddangosodd John Williams wrhydri mawr hefyd. Roedd o ynghyd â dau filwr arall wedi bod yn saethu trwy ffenestr fechan yn yr ysbyty. Cafodd cyrff 14 o Zulu eu darganfod yno'r diwrnod wedyn. Llwyddodd Williams wedyn i atal y Zulu rhag meddiannu ward arall a helpu wyth o gleifion i ddianc. Dim ond bidogau (bayonets) oedd ganddo fo a Henry Hooke i'w hamddiffyn.

John Williams a Robert Jones oedd yr olaf i adael yr adeilad, a oedd ar dân erbyn hynny.

Image copyright Amgueddfa Catrawd y Cymry Brenhinol
Image caption Cafodd 11 Croes Victoria eu rhoi i gydnabod dewrder y milwyr yn Rorke's Drift

Yn y ddau achos, mae lle i gredu eu bod wedi dioddef o'r hyn a gydnabyddir heddiw fel post-traumatic stress disorder. Mewn erthygl am John Williams yn yr "Evening Express" yn 1896, dywedwyd ei fod yn byw yng Nghwmbran, ac er nad oedd ond 38 oed, roedd ei wallt wedi troi'n glaer wyn oherwydd ei brofiadau enbyd yn Rorke's Drift.

Roedd pethau'n waeth o lawer ar Robert Jones. Bu'n cael breuddwydion hunllefus a chur cyson yn ei ben yn ei fisoedd olaf. Ym Medi 1898, yn 41 oed, fe'i cafwyd wedi ei saethu gyda'r gwn wrth ei ymyl. Barnodd y cwest mai hunan-laddiad ydoedd, er i'w deulu ymgyrchu am flynyddoedd i gael dileu y ddyfarniad."

Roedd y ddau Gymro yn bresennol mewn seremoni i ddadorchuddio cofeb i amddiffynwyr Rorke's Drift yn Aberhonddu ym mis Ionawr 1898.

Dywedodd rhifyn o'r Pall Mall Gazette gafodd ei gyhoeddi yn fuan ar ôl y frwydr

"... It was a gallant defence. The young soldiers stuck together, backed each other up and fought splendidly. They never wavered for a moment. Most of them were Welshmen by birth..."

Image caption Rhai o'r milwyr fu'n brwydro yn Rorke's Drift

(Addasiad yw hon o erthygl gafodd ei chyhoeddi yn BBC Darganfod ym mis Ionawr 2014)