Cynllun Brexit Cymru 'ddim yn rhestr o ofynion'

Carwyn Jones a Leanne Wood Image copyright BBC/Getty

Mae Carwyn Jones a Leanne Wood yn dweud nad yw'r cynllun sy'n amlinellu anghenion Cymru o Brexit yn "rhestr o ofynion".

Bydd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru'n datgelu eu cynllun ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Llun.

Mewn llythyr ar y cyd yn y Sunday Times, mae'r ddau yn dweud y byddan nhw'n cydweithio er mwyn "sicrhau'r cytundeb gorau i Gymru".

Mae Llywodraeth y DU wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru cyn hyn i beidio a thanseilio trafodaethau Brexit, ac mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn rhy negyddol yn ei hymateb i ganlyniad y refferendwm.

Yn yr erthygl, mae Carwyn Jones a Leanne Wood yn dweud: "Fel cenedl, mae angen i ni symud ymlaen y tu hwnt i'r dadleuon a'r anoddefgarwch sydd wedi bod yn bla ar ein gwleidyddiaeth ni dros y flwyddyn ddiwetha.

"Yr her ry' ni'n ei hwynebu nawr yw sicrhau, wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, ein bod ni'n cael y fargen orau i Gymru. Gyda'n gilydd, ein bwriad yw mynd i'r afael â'r her."

Image caption Daeth Theresa May i gwrdd â Carwyn Jones wedi iddi ddod yn Brif Weinidog

Mae Mr Jones a Ms Wood yn amlinellu cynnwys cynllun Brexit i Gymru, fydd, medden nhw, yn gosod "man cychwyn synhwyrol" ar gyfer trafodaethau i bob rhan o'r DU.

Mae'r Papur Gwyn, fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, yn canolbwyntio ar barhau â mynediad Cymru i'r farchnad sengl, unwaith i'r DU adael yr UE.

Mae'r ddogfen, sy'n amlinellu gofynion mewnfudo ac ariannu Cymru, yn ganlyniad i'r cytundeb rhwng Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Wedi'r bleidlais i adael yr UE ar 23 Mehefin, fe fu mynediad i'r farchnad sengl yn achos dadlau rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.

Cytunodd y blaid i gytundeb cyfyngedig yn dilyn etholiad y Cynulliad fis Mai i ganiatáu i arweinydd y Blaid Llafur, a enillodd 29 o'r 60 sedd, i gael ei ailethol yn Brif Weinidog.

Image caption Dywedodd Theresa May y byddai Prydain yn gadael y farchnad sengl wrth adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r ddau yn feirniadol o araith Theresa May yr wythnos ddiwetha, gan ddweud nad oedd wedi gwneud fawr ddim i "ennyn hyder" yn strategaeth Prydain i adael yr UE.

Ddydd Mawrth, dywedodd Mrs May bod yn rhaid i'r DU adael y farchnad sengl er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Jones a Ms Wood fod aros o fewn y farchnad sengl "yn bwysig i lewyrch Cymru a phawb sy'n byw yma yn y dyfodol".

"Fe bleidleisiodd pobl dros adael ond wnaethon nhw ddim pleidleisio dros danseilio miloedd o swyddi, dros danseilio 60% o allforion Cymru na'r buddsoddiad uniongyrchol i Gymru."

Daw'r llythyr yn dilyn y cyfarfod cynta o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Prydain i roi llwyfan i'r gweinyddiaethau datganoledig i leisio'u barn ar Brexit.

'Nid rhestr siopa'

Ailadroddodd Mr Jones a Ms Wood y galwadau y dylai Llywodraeth Prydain wrando ar angenion y cenhedloedd datganoledig cyn tanio Erthygl 50, fydd yn dechrau'r broses ddwy flynedd o adael yr UE.

"Nid dim ond rhestr siopa o ofynion gan Gymru yw'r Papur Gwyn, ond man cychwyn ar gyfer trafodaethau a ddylai ddelifro ar gyfer pob rhan o'r Deyrnas Unedig", meddai'r llythyr.

Pwysleisiodd y ddau hefyd yr angen am system fewnfudo "deg a chlir", a dweud bod yn rhaid i'r nawdd sy'n dod o Frwsel i Gymru ar gyfer diwydiannau gan gynnwys amaeth barhau.

"Fe ddwedwyd wrthym ni yn ystod y refferendwm na fyddai Cymru'n colli ceiniog o'r arian presennol o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a'n bwriad yw sicrhau fod Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewid".

"Wnawn ni ddim gadael i Gymru gael ei gwanhau o ganlyniad i Brexit, ac ry ni'n credu mai ein cynllun ni yw'r llwybr gorau er mwyn sicrhau bargen dda i'n gwlad."

Image caption Yn ôl Andrew RT Davies, mae Cymru wedi bod yn rhy ddibynnol ar gymorth Ewropeaidd

Mewn datganiad, mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, yn galw am agwedd fwy positif i Brexit, gan gyhuddo Carwyn Jones o fod yn negyddol: "Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw arweinyddiaeth a phositifrwydd.

"Yn hytrach na hynny, rydym wedi wynebu agwedd elyniaethus negyddol i'r bleidlais gyhoeddus ar 23 Mehefin, gan Brif Weinidog analluog a "sefydliad asgell-chwith" sy'n dal i fethu â deall sut rydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn."

Yn ôl Mr Davies, mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i'r teuluoedd hynny mewn ardaloedd difreintiedig sydd ddim, medde fe, wedi teimlo'r budd o fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.