Dod o hyd i fam a mab o Ynys Môn oedd ar goll

Mam a mab Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Roedd Elen Jones a'i mab Lewis Rhys Jones wedi eu gweld ddiwethaf ar 17 Ionawr

Mae'r heddlu'n dweud eu bod wedi dod o hyd i fam a mab o Ynys Môn oedd heb eu gweld ers 17 Ionawr.

Fe gysylltodd teulu Ellen Jones, 36 oed, a'i mab wyth oed, Lewis Rhys Jones gyda'r heddlu i ddweud nad oedd y ddau wedi cael eu gweld ers y dydd Mawrth hwnnw.

Dywedodd y prif arolygydd Richie Green o Heddlu Gogledd Cymru bod aelod o'r teulu wedi siarad ag Ellen dros y ffôn ar y penwythnos.

Ond cadarnhaodd y llu ddydd Mawrth bod y ddau wedi cael eu canfod yn ddiogel, gan ddiolch i'r cyhoedd am eu help.

Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Mae Lewis Rhys Jones yn wyth oed