Dyn wedi marw ar ôl syrthio yn Eryri

Hofrennydd gwylwyr y glannau

Daeth cadarnhad fod dyn wedi marw ar ôl syrthio yn Eryri ddydd Sadwrn.

Mae'n debyg i'r dyn gael anafiadau i'w ben ar ôl syrthio i geunant ger y Glyder Fach tua 15:00.

Cafodd tim achub mynydd Dyffryn Ogwen eu galw a chafodd y dyn ei gludo yn hofrennydd gwylwyr y glannau i ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bu farw'n ddiweddarach.