Arestio dyn wedi sylwadau 'hiliol'

sloganau hiliol Image copyright PROSPORTS/REX/SHUTTERSTOCK
Image caption Ntumba Massanka yn chwarae dros Morecambe fis Rhagfyr y llynedd

Cafodd dyn ei arestio yn dilyn honiadau fod slogannau hiliol wedi eu gweiddi at un o chwaraewyr Wrecsam yn ystod y gêm bêl-droed yn erbyn Caer ddydd Sadwrn.

Mae'n debyg fod ymosodwr Wrecsam, Ntumba Massanka wedi gwneud y gwyn yn ystod y gêm yn Stadiwm Lookers Vauxhall yng Nghaer, a orffennodd yn gyfartal 1-1.

Cafodd y dyn ei arwain o'r stadiwm.

Dywedodd Heddlu Sir Caer mai dyna'r unig ddyn i gael ei arestio yn ystod y gêm oedd â mesurau diogelwch llym oherwydd hanes o ymladd rhwng cefnogwyr y ddau dîm.

Dywedodd llefarydd: "Gallwn gadarnhau fod dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â throsedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus ag iddi gymhelliad hiliol.

"Mae swyddogion yn ymchwilio i'r digwyddiad."

Image copyright TWITTER/@NTUMBAMASSANKA

Dywedodd clwb pêl-droed Caer eu bod yn ymwybodol o'r honiadau, a bod yr heddlu a swyddogion diogelwch wedi delio â'r mater yn syth.

Dywedodd Mark Maguire, prif swyddog gweithredol y clwb, na allai wneud sylw oherwydd bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

"Fodd bynnag, fel clwb pêl-droed cymunedol, does dim angen dweud ein bod yn hynod falch o'n hagwedd gynhwysol, ac rydym yn condemnio'n llwyr unrhyw ymddygiad sy'n mynd yn groes i'r egwyddorion sylfaenol sy'n gwneud hwn yn clwb gwych."