Jones a Wood yn galw i aros yn rhan o'r farchnad sengl

Carwyn Jones and Leanne Wood Image copyright Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun Cymru ar Brexit, gan alw am barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl.

Galwodd Carwyn Jones a Leanne Wood am "ddull cytbwys o fynd i'r afael â mudo, drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi".

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn araith gan y Prif Weinidog Theresa May yr wythnos ddiwethaf pan amlinellodd hi ei 12 egwyddor ar Brexit.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies bod y neges sy'n dod o Gymru yn un "anhrefnus".

Ychwanegodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton bod y cynllun yn ymdebygu fwy i "faner wen" na phapur gwyn.

Mae'r Papur Gwyn, gafodd ei lansio yn Llundain ddydd Llun, yn galw am:

  • Barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl er mwyn cefnogi "ffyniant Cymru ar gyfer y dyfodol";
  • Dull cytbwys o fynd i'r afael â mudo drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi, gydag "arferion cyflogaeth da" i amddiffyn gweithwyr o ba bynnag wlad y maen nhw'n dod;
  • I Lywodraeth y DU wireddu eu haddewid na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit;
  • Perthynas "gyfansoddiadol sylfaenol wahanol" rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU;
  • Cynnal mesurau diogelu a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol yr ydym yn ymfalchïo ynddynt yng Nghymru;
  • Ystyriaeth briodol o drefniadau pontio er mwyn sicrhau nad yw'r DU yn "syrthio dros ymyl y dibyn" o ran ei pherthynas gydag Ewrop.

Mae'r Papur Gwyn yn ganlyniad i gytundeb rhwng Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Mr Jones bod y papur yn "cydbwyso'r neges a gawsom gan bobl Cymru" am bleidlais Brexit "gyda'r gwirionedd economaidd sy'n gwneud cymryd rhan yn y Farchnad Sengl mor bwysig ar gyfer ffyniant Cymru, ac yn wir y Deyrnas Unedig yn gyfan, yn y dyfodol".

Ychwanegodd Ms Wood bod Plaid Cymru wedi "rhoi blaenoriaeth i economi Cymru".

"Rydyn ni wedi gwneud hyn gan fod dwy ran o dair o'n holl allforion yn mynd i Farchnad Sengl Ewrop," meddai.

'Parchu'r refferendwm'

Yn siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 fore Llun, dywedodd Mr Jones ei bod yn gwneud "dim synnwyr" i osod rhwystrau rhwng Cymru a'i farchnad fwyaf.

Dywedodd ei fod yn anghytuno gyda Ms May, a'i bod yn well ganddo system Norwy, sydd â mynediad llawn i'r farchnad sengl a ffiniau agored i'r rheiny sy'n gweithio.

"Mae hyn yn galluogi i ni barchu'r refferendwm," meddai. "Dydyn ni ddim yma i ail-frwydro hynny.

"Rydyn ni wedi cynnig cynllun synnwyr cyffredin ar fewnfudo, ble dy'n ni'n dweud bod rhyddid i symud i weithio.

"Beth fydden ni ddim yn ei ddweud yw bod rhyddid cyffredinol i symud, heb gyfyngiadau."

Mewn llythyr yn y Sunday Times, dywedodd Mr Jones a Ms Wood nad "rhestr siopa o ofynion" oedd eu cynllun, ond mai'r ffordd orau o ddechrau'r trafodaethau oedd sicrhau'r fargen orau i Gymru.

Dywedodd Eluned Morgan AC, sy'n gyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd Llafur, mai mynediad i'r farchnad sengl fyddai prif flaenoriaeth arweinwyr y pleidiau yng Nghymru.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae mynediad i'r farchnad sengl yn bwysicach na dim arall i Gymru, medd Eluned Morgan AC

'Baner wen'

Mynnodd Neil Hamilton fodd bynnag nad oedd y Papur Gwyn yn cynnwys "unrhyw gynllun i reoli'n ffiniau" a lleihau mewnfudo.

"Mae e'n fwy o faner wen yn ildio i'r Undeb Ewropeaidd na phapur gwyn, a hynny cyn i drafodaethau hyd yn oed ddechrau," meddai.

"Petai Theresa May yn mynd â'r cynllun yma i Frwsel byddai'r UE yn cael popeth fydden nhw eisiau.

"Byddai'n golygu na fydden ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd o ddifrif."

'Hwyr'

Dywedodd Andrew RT Davies ei fod wedi gobeithio am gytundeb trawsbleidiol ehangach, ond nad oedd wedi cael gwahoddiad gan y Prif Weinidog.

"Mae'r neges sy'n dod o Gymru yn un anhrefnus," meddai, gan ychwanegu bod angen i Ewrop ymateb i fater mewnfudo.

"Pan gafodd y farchnad sengl ei chreu... doedd ymfudiad mawr o gwmpas Ewrop ddim yn ystyriaeth. Mae'n ystyriaeth heddiw."

Wrth siarad gyda BBC Cymru, ychwanegodd bod cynllun Llywodraeth Cymru "ychydig yn hwyr".

Mae Mr Jones wedi amddiffyn y penderfyniad i gyhoeddi eu cynllun wythnos ar ôl i Ms May gyhoeddi un Llywodraeth y DU, gan ddweud bod un Cymru yn fwy manwl a chynhwysfawr.

Ddydd Mawrth, mae disgwyl i'r Goruchaf Lys gyhoeddi eu dyfarniad ar a ddylid cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin cyn bod modd bwrw 'mlaen â'r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.