Eluned Morgan
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Eluned Morgan ar gynllun Brexit Cymru

23 Ionawr 2017 Diweddarwyd 06:42 GMT

Mewn digwyddiad yn Llundain ddydd Llun bydd Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru yn cyhoeddi Papur Gwyn ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Carwyn Jones a Leanne Wood, ynghyd â'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru'n dweud bod yn rhaid i Gymru "barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl".

Dywedodd Eluned Morgan AC, sy'n gyn aelod seneddol Ewropeaidd Llafur, mai ei dealltwriaeth hi oedd y byddai mynediad i'r farchnad sengl yn brif flaenoriaeth i arweinwyr y pleidiau yng Nghymru.