Arestio dyn am 'daflu chilli i lygaid cwsmer'

prince of bengal Image copyright Google
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad honedig ym mwyty Prince of Bengal yn Nhonypandy

Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn honiad bod powdr chilli wedi ei daflu i lygaid cwsmer mewn bwyty Indiaidd.

Cafodd yr heddlu eu galw i fwyty Prince of Bengal yn Nhonypandy dros y penwythnos yn dilyn adroddiad o ymosodiad.

Dywedodd David Evans ei fod mewn poen enbyd wedi i sylwedd tebyg i bowdr gael ei daflu yn ei wyneb nos Sadwrn.

Cafodd Mr Evans, 46, oedd wedi mynd allan am fwyd gyda'i wraig Michelle, ei ruthro i'r ysbyty er mwyn i feddygon allu glanhau ei lygaid.

Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru bod dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad cyffredin.

Mae eu hymchwiliadau yn parhau ac mae'r person wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.