Cwest Tunisia: Trudy Jones wedi ei saethu yn ei gwddf

Trudy Jones Image copyright family via Gwent police
Image caption Roedd Trudy Jones yn un o 38 o bobl gafodd eu lladd yn yr ymosodiad ym mis Mehefin 2015

Mae cwest i farwolaeth dynes o'r Coed Duon, gafodd ei lladd gan derfysgwr Islamaidd ar draeth yn Tunisia, wedi clywed iddi farw o ergyd gwn i'w gwddw a'i brest.

Roedd Trudy Jones yn un o 30 o Brydeinwyr i gael eu lladd gan Seifeddine Rezgui ar draeth yn ardal Sousse yn 2015.

Mae cwest i'r marwolaethau yn cael ei gynnal yn Llundain.

Dywedodd heddwas fod Ms Jones ymhlith y rhai oedd yn y rhes flaen o bobl oedd yn torheulo pan gafodd ei lladd.

Roedd Ms Jones o fewn dyddiau i ddychwelyd adref o'i gwyliau pan gafodd ei lladd gan Rezgui, myfyriwr 23 oed o Tunisia.

Fe wnaeth o ladd 38 o bobl ar y traeth ac mewn gwesty cyfagos.

Clywodd y cwest fod Ms Jones, mam i bedwar, yn weithiwr gofal oedd yn "berson oedd yn gofalu am eraill, ac yn rhoi blaenoriaeth i bobl eraill".

Image copyright Reuters
Image caption Cafodd blodau eu gadael ar y traeth yn Sousse er cof am y rhai a fu farw

Cafodd datganiad ei ddarllen i'r cwest yn dweud fod Trudy Jones "yn rhoi amser i bawb ac wedi gwneud argraff fawr ar fywydau pobl o'i chwmpas".

Roedd teulu Trudy Jones yn gwylio'r gwrandawiad drwy gyswllt fideo o Gaerdydd.

Clywodd y cwest dystiolaeth gan Carol Powell, oedd ar wyliau gyda Ms Jones.

Dywedodd ei bod wedi clywed ergydion yn cael eu tanio a bod anhrefn llwyr.

Ychwanegodd iddi orfod smalio ei bod wedi marw er mwyn osgoi cael ei saethu.

Dywedodd Ms Powell mai hi oedd yr un oedd wedi gorfod adnabod corff Trudy Jones.

Mae disgwyl i'r cwest bara am saith wythnos.