Llywodraeth y DU yn colli apêl yn erbyn dyfarniad Brexit

Welsh flag superimposed on the Supreme Court

Mae Llywodraeth y DU wedi colli apêl yn erbyn dyfarniad yn y Goruchaf Lys, sy'n golygu y bydd rhaid cael deddfwriaeth seneddol i danio Erthygl 50 a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond fe ddyfarnodd y llys nad oes rhaid iddyn nhw ofyn am ganiatâd Llywodraeth Cymru a chyrff datganoledig eraill cyn dechrau proses Brexit.

Fe bleidleisiodd y Goruchaf Lys o wyth i dri i wrthod apêl Llywodraeth y DU.

Daw eu penderfyniad ddydd Mawrth wedi i'r llywodraeth herio dyfarniad blaenorol fis Tachwedd.

Beth nesaf? Dadansoddiad Elliw Gwawr, gohebydd seneddol BBC Cymru

Dyma un o'r achosion cyfansoddiadol mwyaf arwyddocaol i gyrraedd prif lys Prydain.

Roedd yr Arglwydd Neuberger, cadeirydd y Goruchaf Lys, yn glir yn ei ddyfarniad mai nid achos yn ystyried a ddylid gadael yr Undeb Ewropeaidd neu beidio oedd hwn, ond achos am bwy oedd â'r grym i ddechrau'r broses.

Nid y llywodraeth sydd â'r grym, yn ôl mwyafrif barnwyr y Goruchaf Lys, ond y Senedd. Ac felly o fewn y dyddiau nesaf fe fydd y llywodraeth yn cyflwyno mesur i'r Senedd.

Yn ôl y barnwyr, penderfyniad i'r llywodraeth yw pa fath o fesur fydd hwn, ond mae'n debygol o fod yn fyr iawn, o bosib dim ond un llinell, er mwyn cyfyngu ar allu aelodau i'w newid.

Dyw hynny ddim yn golygu na fydden nhw'n trio. Mae Plaid Cymru, y blaid Lafur, yr SNP a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod nhw'n paratoi gwelliannau er mwyn gallu clymu dwylo'r prif weindiog yn y trafodaethau.

Er fod y dyfarniad yn ei gwneud hi'n bosib i ASau ac arglwyddi atal y broses o adael, mewn gwirionedd mae hynny yn annebygol iawn o ddigwydd. Prin fydd yr aelodau fydd eisiau mynd yn erbyn canlyniad y refferendwm.

Ond fydd 'na siom yn Llywodraeth Cymru na fydd llais i aelodau'r Cynulliad yn y broses hon. Roedden nhw wedi dadlau bod angen pleidlais yn y Cynulliad hefyd, ond roedd y barnwyr yn unfrydol nad oedd achos cyfreithiol i roi pledilais i'r sefydliadau datganoledig.

Mae'r dadlau cyfreithiol nawr ar ben. Ond fe fydd y frwydr wleidyddol dros y math o Brexit y cawn ni yn parhau.

'Dim newid cynlluniau'

Mynnodd Llywodraeth y DU na fyddai'r dyfarniad yn newid eu cynlluniau ar ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae pobl Prydain wedi pleidleisio i adael yr UE, ac fe fydd y llywodraeth yn gweithredu'r penderfyniad hwnnw - gan danio Erthygl 50 fel y cynlluniwyd - erbyn diwedd mis Mawrth," meddai llefarydd.

"Dyw dyfarniad heddiw ddim yn gwneud unrhyw beth i newid hynny."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu" y dyfarniad fyddai'n golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gael caniatâd y Senedd cyn tanio Erthygl 50.

"Mae'n hanfodol i Lywodraeth y DU negodi mewn ffordd sy'n adlewyrchu buddiannau Cymru a'r Deyrnas Unedig yn gyfan - mae Prif Weinidog y DU eisoes wedi ymrwymo'n gyhoeddus i wneud hyn", meddai'r llefarydd.

"Mae'r dyfarniad yn cynnal ac yn cydnabod pwysigrwydd confensiwn Sewel, sef na fydd Senedd y DU fel rheol yn deddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r llywodraethau datganoledig eraill heb eu cydsyniad.

"Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion er mwyn dylanwadu ar safbwynt y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Ein nod yw cadw mynediad at y farchnad sengl i fusnesau a diogelu swyddi a buddsoddi yng Nghymru, ynghyd â hawliau gweithwyr."

Pwy oedd o blaid a phwy oedd yn erbyn?

  • Gwrthod yr apêl: Arglwydd Neuberger, Boneddiges Hale, Arglwydd Mance, Arglwydd Kerr, Arglwydd Clarke, Arglwydd Wilson, Arglwydd Sumption ac Arglwydd Hodge.
  • Cefnogi'r apêl: Arglwydd Reed, Arglwydd Carnwath ac Arglwydd Hughes.

Ychwanegodd Jo Stevens AS, llefarydd Llafur ar Gymru, bod y penderfyniad yn ddiwrnod da i sofraniaeth y Senedd, a bod y llywodraeth wedi gwastraffu 82 diwrnod ac arian yn herio penderfyniad yr Uchel Lys.

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams AS eu bod yn "croesawu" dyfarniad y Goruchaf Lys, ond fe rybuddiodd y dylai Theresa May gofio ei bod yn cynrychioli "buddiannau mwy nag un wlad" yn y trafodaethau i ddod.

Ac fe ddywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price ei fod yn siomedig tu hwnt â dyfarniad y llys ar y gwledydd datganoledig ac y byddai ei blaid yn pleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50.

Dywedodd Mark Williams AS, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei fod yn croesawu'r dyfarniad ac "yn galw ar i'r bobl gael dweud eu dweud ar y fargen derfynol ar Brexit".

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU barchu setliad datganoledig Prydain a hawl y senedd-dai datganoledig i siapio'r broses o adael yr UE."

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, yn fwy croesawgar o ddyfarniad y llys nad oedd angen gofyn am ganiatâd Llywodraeth Cymru.

"Da gweld eglurder i'r llywodraethau datganoledig ar ddyfraniad Erthygl 50, fel petai unrhyw amheuaeth," meddai mewn neges drydar.

Straeon perthnasol