Cyflwyno cais am orsaf RNLI newydd ym Mhorth Tywyn

Gorsaf RNLI Image copyright Lewis Partnership
Image caption Dyluniad artist o'r orsaf newydd arfaethedig

Mae'r RNLI wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer canolfan achub bywyd newydd ym Mhorth Tywyn fyddai'n cael gwared ar yr hen orsaf gychod, gan ddod â'r ddau fad achub o dan un to.

Dywedodd yr elusen bod yr orsaf gychod presennol yn rhy fach a rhy hen ar gyfer eu cynlluniau i sefydlu canolfan achub bywyd yn y dref.

Byddai'r cynllun yn gweld yr adeilad newydd yn cael ei adeiladu rhwng yr hen orsaf a'r llithrfa i'r môr.

Mae'r cais cynllunio ar gyfer yr adeilad wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Image copyright Lewis Partnership

Dywedodd yr RNLI y byddai'n cynnig mwy o le i gartrefu dau fad achub Porth Tywyn, ac y byddai'n cyflymu'r broses pan mae criw yn cael eu galw i ddigwyddiad.

"Mae'r RNLI wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau y bydd y ganolfan achub bywyd newydd yn ased i Borth Tywyn," meddai prif beiriannydd ystadau'r RNLI, Lloyd Evans.

"Bydd yn ein galluogi i ni gartrefu'r ddau fad achub mewn un adeilad, gan ei gwneud yn broses llawer mwy effeithlon, a bydd yn darparu'r cyfleusterau gwell y mae ein criw o wirfoddolwyr yn ei haeddu."