Dadl am bryniant Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn yr Uchel Lys

Dŵr Image copyright Thinkstock

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn yr Uchel Lys ddydd Mercher ynglŷn â'r ddadl "Dafydd a Goliath" dros ddyfodol Dŵr Dyffryn Dyfrdwy.

Fe wnaeth cyfranddalwyr y cwmni o Wrecsam gwrdd yn gynharach yn y mis i bleidleisio ar gynllun i gael eu prynu gan gwmni Severn Trent am £84m.

Ond cafodd cyfranddaliadau eu trosglwyddo i tua 450 o gwsmeriaid a staff cyn y bleidlais i geisio eu hatal rhag symud i ddwylo'r cwmni o Coventry.

Bydd yr Uchel Lys nawr yn penderfynu os yw eu pleidleisiau nhw yn gymwys.

Dywedodd llefarydd ar ran y staff: "Mae'n achos llys digynsail yn y DU, ac mae'n frwydr Dafydd a Goliath rhwng staff a chwsmeriaid lleol a chwmni FTSE 100."

180 o weithwyr

Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn cyflogi tua 180 o weithwyr ac mae ganddo 230,000 o gwsmeriaid yn ardaloedd Wrecsam a Chaer.

Mae cwsmeriaid yn talu £145 y flwyddyn ar gyfartaledd ar gyfer eu dŵr, o'i gymharu â £172 i gwsmeriaid Severn Trent.

Roedd Severn Trent wedi cynnig mwy o arian na chwmni buddsoddi Ancala o Lundain, oedd wedi cynnig tua £78.5m i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy.

Fe wnaeth tua 120 o gyfranddalwyr gwrdd yn Wrecsam yn gynharach yn y mis i bleidleisio, ond cyn hynny fe wnaeth un person drosglwyddo perchnogaeth mwy na 400 o gyfranddaliadau i unigolion.

Bydd yr achos llys yn sefydlu dilysrwydd y pleidleisiau ac mae'n bosib y bydd yn cymeradwyo'r pryniant.

Image caption Fe wnaeth protestwyr fynychu'r bleidlais yn Wrecsam yn gynharach yn y mis

Dywedodd cadeirydd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, Jon Schofield, bod y bwrdd yn benderfynol o sicrhau bod barn cyfranddalwyr yn cael ei "adlewyrchu'n gywir".

"Yn dilyn nifer o drosglwyddiadau anarferol, fe wnaeth ein cynghorwyr cyfreithiol hysbysu'r bwrdd bod amgylchiadau'r bleidlais yn ddigynsail, a'u bod yn credu mai'r unig beth cyfrifol i'w wneud fyddai ceisio cael sicrwydd gan y llys am sut i symud 'mlaen," meddai.

'Cadw annibyniaeth'

Cyn y gwrandawiad fe wnaeth staff apêl i "gadw eu swyddi ac annibyniaeth y cwmni".

"Mae rhai o'r 450 wedi mynegi eu hanfodlonrwydd am y potensial y gall y llys ddiystyru eu pleidlais, gan gwestiynu hawliau cyfranddalwyr bychan," meddai llefarydd ar ran y staff.

"Mae'r achos hyd yn oed yn fwy diddorol pan dy'ch chi'n ystyried bod cyflenwad dŵr yn fusnes monopoli ac felly mai dyma'r unig ffordd y gallai cwsmeriaid gael dylanwad ar bwy yw eu cyflenwr."

Dywedodd AC Plaid Cymru ar gyfer y gogledd, Llŷr Gruffydd y byddai'r pryniant yn arwain at golli swyddi, ac y byddai "rheolaeth o adnodd Cymreig pwysig yn gadael Cymru".