'Ddim yn rhwydd'

Mae Lowri Harris o San Clêr ger Caerfyrddin yn byw gyda'r cyflwr Friedreich's ataxia sydd, ymhlith nifer o symptomau eraill, yn gallu effeithio ar gydbwysedd, cerddediad a lleferydd.

Dechreuodd symptomau Lowri, sydd yn 32 oed, pan oedd hi'n astudio at ei arholiadau TGAU, ond yn ddiweddar mae wedi dechrau sgwennu blog 'Step By Wobbly Step' i'w helpu i ddygymod â'i chyflwr. Bu'n siarad â Cymru Fyw:

Image copyright Lowri Harris

Dim bai ar neb

Fe ddechreuodd y symptomau pan o'n i'n 16 oed. O'n i'n cael cryndod yn fy llaw dde, a phan o'n i'n gwneud fy ngwaith cartref neu'n cario dishgled o de o'n i'n sylwi fy mod i'n fwy sigledig nag arfer.

Yn ystod y gwyliau haf o'n i'n iawn, ond pan es i nôl i wneud fy Lefel A, dechreuodd y broblem eto a dyna pryd ddywedodd Mam wrtha'i am fynd at y meddyg teulu.

Roedd hi'n ffantastig a chyfeiriodd hi fi at y bobl cywir a dwi 'di gweld nifer fawr o ddoctoriaid dros y blynydde. Ond fe gymerodd hi ddeg mlynedd i fi gael y deiagnosis.

D'on i dal ddim yn gwybod beth oedd yn bod arna'i pan es i astudio gradd mewn Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, a bryd 'ny, heblaw am ffrindie anhygoel yn dishgwl ar fy ôl i, yn dala fi lan, bydden i wedi dweud: "I can't be bothered".

Dwi'n cofio'r dydd pan ges i'r deiagnosis yn Llundain. O'n i'n OK i ddechre, ond wedyn roedden nhw eisiau i Mam a Dad roi prawf gwaed, er mwyn gwybod pwy oedd yn cario'r genyn. Dyna pryd ddechreuais i lefen a mynd yn ypset.

Dwi ddim moyn gwbod os taw Mam neu Dad yw'r cariwr, maen nhw'n fam ac yn dad anhygoel, a dyw pwy sy'n cario'r genyn ddim yn 'neud gwahaniaeth. Sdim eisie beio neb, rhywbeth sydd wedi digwydd i fi yw e, a dyna ni.

'Ofn y dyfodol'

Mae'r salwch yma wedi bwrw fy hyder i lot. Er fy mod i'n gallu jôcan a whare o gwmpas, dyw e ddim wastad yn rhwydd.

Mae 'na ddiwrnodau ble dwi ddim moyn mynd mewn i'r dre, ddim moyn pobl i fy ngweld i a dwi ddim yn hoffi pan maen nhw'n syllu. Mae'n effeithio ar fy meddylfryd i.

Dwi wastad yn teimlo fel fy mod i'n colli balans, fel fy mod i'n cerdded ar ochr pafin a bo' fi'n mynd i gwympo. Mae'n teimlo fel 'na drwy'r amser, felly fi'n ofan cwympo ac mae'n anodd i ymdopi gyda hynny'n gyhoeddus.

Bysen i'n dweud celwydd os o'n i'n dweud bod e ddim yn anodd, weithie fi'n cael dyddie eitha' tywyll a fi jyst moyn bod gatre, cau'r cyrtens a chael llonydd. Wedyn byddai'n tynnu fy hunan mas o fe, a chario 'mlaen.

Dwi'n lwcus iawn achos dwi'n gallu gweithio, dwi'n athrawes rhan amser, ac mae'r gefnogaeth dwi'n ei gael yn arbennig, alla'i ddim gofyn am fwy. Mae wedi cymryd sbel fach i fi sylweddoli bod 'na ffordd o weithio rownd pethau. Dwi'n teipio fwy na sgrifennu ac yn fy ngwaith fi'n gallu teipio ar beiriant labeli a stico'r label yn llyfrau'r plant.

Os fi'n onest, fi'n ofn y dyfodol tamed bach. Fi'n ofn beth sy'n mynd i ddod, byddai'n gorfod bod mewn cadair olwyn a sai'n barod am hynny eto.

Image copyright Lowri Harris

Chwerthin a chariad

Dwi'n cymryd hi dydd wrth ddydd a sai moyn meddwl am bum mlynedd lawr y rhewl. Ond ers cwrdd â fy sboner i, mae mywyd i wedi newid lot.

Mae lot o hapusrwydd, chwerthin a chariad yn fy mywyd i nawr a dwi'n teimlo'n fwy positif.

Rhai wythnosau'n nôl ges i rai dyddie tywyll ac o'n i'n teimlo os nad o'n i'n siarad am bethe bydden i wedi hala fy hunan yn ddwl. Wrth sgrifennu'r blog, wi'n trial trefnu fy mhen.

Wi'n ei chael hi'n anodd i weud wrth pobl shwt wi'n teimlo, felly mae'r blog yn gyfle i fi fod yn onest ac agored. Fi ddim yn teimlo'n grêt trwy'r amser a ddim yn gweld pethe'n ddoniol o hyd.

Ac os alla'i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr trwy'r blog, mae hynny'n ffantastig.