Rhyddhau lluniau o lowyr Cwm Dulais o'r 70au a'r 80au

Glowyr Image copyright Geraint Burgess

Mae lluniau trawiadol o fywyd ym mhyllau glo Cwm Dulais 'nôl yn y 1970au a'r 80au wedi cael eu rhyddhau gan gyn-löwr.

Roedd Geraint Burgess, 59 oed o Ystradgynlais, wedi cadw'r lluniau yn ei atig am bron i 30 o flynyddoedd.

Bu'n tynnu lluniau am 10 mlynedd wrth weithio ym mhyllau glo Treforgan a Blaenant, ac mae'n amcangyfrif ei fod wedi tynnu bron i 1,000 ohonyn nhw.

Gyda'r pyllau bellach wedi cau, mae'r lluniau yn cynnig atgofion o ddiwydiant pwysicaf y cymunedau.

Mae cymaint o ddiddordeb wedi bod yng ngwaith Mr Burgess, mae e nawr yn gobeithio cynnal arddangosfa i roi darlun byw o hanes y cymunedau glofaol i genedlaethau'r dyfodol.

Image copyright Geraint Burgess
Image copyright Geraint Burgess
Image copyright Geraint Burgess